Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Cyrsiau Israddedig UCAS

Astudio eich gradd israddedig ym Met Caerdydd

Os ydych yn ystyried mynd i'r brifysgol i gynnal eich astudiaethau, neu ddychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant, mae Met Caerdydd yma i helpu! Isod fe welwch y wybodaeth graidd i'ch helpu i wneud eich penderfyniad.



Pam dewis Met Caerdydd

Ymchwilio eich opsiynau cwrs

Efallai eich bod eisoes yn gwybod pa gwrs yn union rydych chi am ei astudio gyda ni, neu efallai eich bod chi'n gwybod eich bod chi am astudio ym Met Caerdydd ond ddim yn siŵr ym mha faes. Mae cannoedd o opsiynau i'w hystyried felly cymerwch eich amser ac ymchwilio i'r holl opsiynau sydd ar gael.

Mae gan UCAS ddewis gwych o offer ar eu gwefan i chi ddefnyddio ac ymchwilio i'ch opsiynau.

Ym Met Caerdydd, un o'r opsiynau gorau i chi, yw mynychu un o'n Diwrnodau Agored ar y campws. Mae'r dyddiau hyn yn rhoi cipolwg i chi ar fywyd fel myfyriwr Met Caerdydd, cyfle i sgwrsio â myfyrwyr presennol a chwrdd â'r tîm academaidd o'r cwrs mae gennych ddiddordeb ynddo. Archebwch eich lle nawr!

Gallwch hefyd leihau eich chwiliad drwy ddefnyddio ein Darganfyddwr Cwrs.

Ymgeisio drwy UCAS

Ar ôl i chi benderfynu gwneud cais, mae'n rhaid i chi wneud eich cais ar-lein trwy UCAS. Mae adrannau i'w cwblhau gan gynnwys eich manylion personol, eich dewisiadau prifysgol (gan gynnwys Met Caerdydd!) a chyrsiau, a'ch Datganiad Personol. Bydd adran datganiad personol eich cais yn cymryd y mwyaf o amser a dyma'r pwysicaf felly gwnewch ddrafftiau lluosog a gofynnwch i wahanol bobl ei ddarllen i chi. Dylech feddwl pam eich bod eisiau astudio'r cwrs rydych chi wedi'i ddewis, pa uchelgeisiau sydd gennych ar ôl cwblhau'r cwrs, pa weithgareddau allgyrsiol rydych chi wedi bod yn rhan ohonynt, unrhyw sgiliau cyflogaeth rydych chi wedi'u codi ac unrhyw fanylion diddorol eraill sy'n ymwneud â'r cwrs. Pwrpas y datganiad yw rhoi darlun cyffredinol o bwy ydych chi a pham rydych chi eisiau astudio'r cwrs felly cymerwch eich amser arno. 

Mae gennym dîm Recriwtio Myfyrwyr a allai fod eisoes wedi ymweld â'ch ysgol/coleg ar gyfer gweithdy datganiad personol ond fel arall, gallwch weld rhai awgrymiadau ganddynt yma. Mae UCAS hefyd yn darparu canllawiau defnyddiol ar lunio eich datganiad personol. 

Ar ôl i chi wneud cais, bydd eich manylion yn cael eu hanfon at ddewisiadau prifysgol i chi a byddwn wedyn yn cyfathrebu â chi drwy e-bost yn bennaf. Gwnewch yn siŵr nad eich cyfeiriad e-bost ysgol yw'r cyfeiriad e-bost ar eich cais UCAS gan na fydd hyn yn weithredol ar ôl i chi orffen ac fel cyfeiriad e-bost personol, gwnewch yn siŵr ei fod yn enw defnyddiwr priodol.

Dyddiadau allweddol ar gyfer mynediad 2024

Dyddiad

Nodiadau

Medi 2023

Gallwch gyflwyno ceisiadau UCAS wedi'u cwblhau i UCAS a fydd yn cael eu cyfeirio at Met Caerdydd os ydym yn un o'ch dewisiadau

Hydref ymlaen

Archebwch le ar un o'n Diwrnodau Agored campws er mwyn cael profiad o sut beth yw bywyd Met Caerdydd

31 Ionawr 2024

Y dyddiad cau i bob cais gael ystyriaeth gwarantedig

​Chwefror - Mehefin 2024

​Gallwch fynychu Diwrnod Ymgeiswyr os ydych wedi cael cynnig lle ym Met Caerdydd. 

Bydd gwahoddiad yn cael ei e-bostio atoch er mwyn i chi archebu lle​

28 Chwefror 2024

UCAS Extra yn agor sy'n caniatáu i chi ychwanegu dewis os nad ydych wedi cael cynigion gan y pum dewis gwreiddiol

Mawrth 2024

Bydd manylion am sut i wneud cais am Gyllid i Fyfyrwyr & ysgoloriaethau yn cael eu hanfon at unrhyw un sy'n cael cynnig gyda Met Caerdydd – edrychwch ar ein tudalennau cyllid am fwy o wyboaeth

01 Ebrill 2024

Ymgeisiwch ar gyfer eich llety o hanner nos ar Ebrill 1af os ydych wedi gwneud ni eich dewis cadarn neu yswiriant

16 Mai 2024

Y dyddiad cau i Met Caerdydd wneud penderfyniad ar geisiadau a gafodd eu cyflwyno erbyn 25 Ionawr

​6 Mehefin 2024

Bydd angen i chi ateb ateb eich cynigion os ydych wedi derbyn pob penderfyniad erbyn 16 Mai

4 Gorffennaf 2024

Dyddiad olaf i ychwanegu dewis trwy UCAS Extra

5 Gorffennaf 2024

Clirio yn agor

Awst ymlaen

Cofrestru'n agor ar gyfer pob cwrs

Awst 2024

Teithiau Campws Clirio ar gael

15 Awst 2024

Cyhoeddi canlyniadau TAG (Safon Uwch) a BTEC RQF

31 Awst 2024

Dyddiad cau i gwrdd ag amodau academaidd eich cynigion​



Beth i'w ddisgwyl wedi ichi ymgeisio

Os na allwch ddod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano neu os oes angen cyngor penodol arnoch, gallwch gysylltu â'n tîm Derbyn ar 02920 416010, siaradwch â ni ar Sgwrs Fyw o'r swigen yn y gornel dde waelod neu anfonwch e-bost atom ar askadmissions@cardiffmet.ac.uk.