Cyn i chi wneud cais

​Nid mater o ddewis y cwrs iawn yn unig yw eich penderfyniad i fynd i'r brifysgol; mae'n ymwneud â dod o hyd i leoliad lle gallwch chi weld eich hun yn byw, astudio a chymdeithasu am ychydig flynyddoedd nesaf eich bywyd! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael llawer o gyngor gan rieni, athrawon a ffrindiau, ond cofiwch beth yw eich ddiddordebau chi a beth yw eich uchelgais chi.

Isod mae ychydig o syniadau i'ch rhoi ar ben ffordd, a’r hyn y gellwch ei ddisgwyl o wneud cais i Met Caerdydd:

Ymchwiliwch i'ch Dewisiadau Cwrs

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymchwilio i'ch dewis o gwrs ymhell cyn gwneud cais, oherwydd os ydych ar y cwrs iawn, byddwch wrth eich bodd â bywyd myfyriwr. P'un ai os ydych chi eisiau gradd anrhydedd sengl neu gyd anrhydedd, neu gwrs sy'n cynnig cyfle i chi ymgymryd â lleoliad gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld â gwefannau prifysgolion, yn gofyn am brosbectysau ac yn ymweld â gwefan ucas.com i ymchwilio i'r ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Gallwch ddewis o ystod eang o lwybrau sy'n canolbwyntio ar yrfa ym Met Caerdydd, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa o'r radd flaenaf ar ôl graddio. Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu'n llawn gan gyrff o fyd diwydiant ac yn cynnig lleoliadau gwaith blwyddyn a all roibmantais i chi o ran dechrau'r yrfa o'ch dewis.

Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/undergraduate i ddarganfod mwy am yr ystod o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd rydyn ni'n eu cynnig.

Diwrnodau Agored

Mae Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i brofi lleoliad, amgylchedd addysgu a chynnwys nodweddiadol eich cwrs; gallant eich helpu chi i gael teimlad o le newydd a'ch helpu chi i benderfynu a allwch chi weld eich hun yn byw ac yn astudio yno drwy gydol cyfnod eich astudiaethau.

Mae Caerdydd Met yn cynnal rhaglen lawn o Ddiwrnodau Agored unigryw a chyffrous drwy gydol y flwyddyn. 

Fel y crybwyllwyd eisoes, mae bywyd prifysgol yn ymwneud â byw hefyd, a dyna pam mae'n werth gwybod bod ein campysau wedi'u lleoli yng nghanol Caerdydd – dinas ifanc, hanesyddol ond bywiog sy'n llawn steil a chymeriad, gydag amrywiaeth o chwaraeon o'r radd flaenaf, cyfleusterau siopa a bywyd nos.

Ffeiriau Addysg Uwch UCAS (AU)

Bob blwyddyn, mae UCAS yn trefnu cyfres o Gonfensiynau Addysg Uwch ledled y DU. Bydd bron pob prifysgol yn y DU yn mynychu'r confensiynau yma, gan gynnig cyfle delfrydol i chi ddarganfod yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael ledled y DU..

Yn ogystal â darganfod mwy am yr opsiynau astudio sydd ar gael, mae'r confensiynau'n gyfle delfrydol i gymryd rhan mewn sgyrsiau a chyflwyniadau am bynciau fel eich datganiad personol, bywyd myfyriwr, ffioedd dysgu ac ariannu'ch ffordd trwy'r brifysgol.

Efallai bod eich ysgol neu goleg eisoes yn trefnu taith i un o'r confensiynau yma, ond gallwch hefyd eu mynychu gyda ffrindiau neu deulu.

I ddarganfod mwy ewch i wefan UCAS www.ucas.com/events

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ​nesaf.

Gwneud Cais trwy UCAS

Os ydych chi am wneud cais am gwrs israddedig llawn amser, gwnewch hynny drwy UCAS www.ucas.com. Gallwch ymgeisio am y rhan fwyaf o'n cyrsiau drwy UCAS hyd at ddiwedd mis Mehefin. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cysylltu â Derbyniadau i wirio a oes dyddiad cau penodol ar gyfer eich dewis gwrs. Os ydych wedi gwneud cais yn rhywle arall ac wedi newid eich meddwl, neu heb dderbyn y cynigion yr oeddech yn eu disgwyl, mae Met Caerdydd hefyd yn derbyn ceisiadau drwy UCAS Extra.

Y cod sefydliad ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw: C20 (CMET)

Gwasanaethau Cwsmeriaid UCAS – 0371 468 0 468

Cymerwch ychydig amser dros adran datganiad personol eich cais UCAS. Bydd angen i chi baratoi drafftiau a gofyn i eraill eu darllen a chynnig eu barn. Mae'r datganiad hwn yn bwysig iawn gan ei fod yn rhan fawr o asesiad eich cais. Ceir awgrymiadau ac adnoddau ar gyfer cwblhau'r datganiad personol hefyd ar gael ar UCAS.com.

Ystyried eich Cais

Ar ôl i UCAS dderbyn eich ffurflen gais, bydd yn cael ei hanfon at Brifysgol Metropolitan Caerdydd i'w hystyried.

Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan naill ai staff derbyn neu diwtoriaid rhaglen, yn dibynnu ar y rhaglen rydych wedi gwneud cais amdani. Byddwn yn ymdrechu i brosesu'ch cais cyn gynted â phosibl ar ôl ei dderbyn

Mae penderfyniadau’n seiliedig ar feini prawf penodol ac ystyrir yr holl wybodaeth a ddarperir yn y cais wrth benderfynu cynnig lle. Mae angen cyfweliad ar gyfer rhai rhaglenni cyn y gellir cynnig lle a hysbysir ymgeiswyr ymlaen llaw o’r manylion yma.

Caiff ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymhwyster mynediad arferol eu cyfweld a'u hystyried yn unigol gan aelodau o dim y cwrs ar sail eu gwaith neu eu cefndir dysgu blaenorol. Caiff achos ymgeiswyr sy’n ymgymryd â 2 Safon Uwch neu gyfwerth yn unig, ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd ac efallai y gwneir cynnig wedi'i raddio yn lle cynnig yn defnyddio Tariff UCAS. I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefnau RPL y Brifysgol ac os ydynt yn berthnasol, cliciwch yma.

Cyfweliadau

Defnyddir y cyfweliad i bwyso a mesur eich addasrwydd ar gyfer y cwrs a hefyd a yw'r cwrs yn addas i chi. O baratoi’n ddigonol ymlaen llaw, ni ddylai fod gennych unrhyw beth i boeni amdano.Gall y pwyntiau canlynol eich helpu chi.

  • Darllenwch y wybodaeth ar ein gwefan, prosbectws a/neu daflen y cwrs i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â manylion y cwrs rydych chi am ei ddilyn. Efallai y gofynnir i chi pam fod y cwrs yn apelio atoch chi.
  • Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos enghreifftiau o’u gwaith mewn cyfweliadau ar gyfer cyrsiau Celf a Dylunio. Paratowch y gwaith hwn ymlaen llaw i sicrhau fod gennych ystod trawiadol o ddeunydd i'w ddangos i'r un sy’n cyfweld. Dylai'r gwaith gael ei roi at ei gilydd dros gyfnod rhesymol o amser, dyweder rhyw ddeunaw mis.
  • Ac yn olaf, cwestiynau ... Diwedd y cyfweliad yw eich cyfle i ddangos eich diddordeb yn y cwrs trwy ofyn cwestiynau. Ceisiwch baratoi'r rhain ymlaen llaw – fe allech chi ofyn am ragor o wybodaeth am y cwrs ei hun, er enghraifft, y dulliau addysgu a ddefnyddir; y llety sydd ar gael neu'r potensial cyflogaeth.

Mathau o Gynigion

Os cynigir lle i chi, gall y penderfyniadau canlynol fod yn berthnasol:

Cynnig Amodol: lle cawsoch eich derbyn ar yr amod eich bod yn ennill graddau neu bwyntiau penodol mewn arholiadau, neu os oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r cymwysterau rydych chi wedi'u cwblhau, gan gynnwys TGAU.

Cynnig Diamod: lle rydych chi eisoes wedi bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs. Mae'n bolisi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i beidio â phrosesu cynigion diamod heb weld tystiolaeth o'ch cymwysterau.

Newid Cynnig Cwrs: lle na allwn gynnig lle i chi ar eich dewis cyntaf o gwrs ond ein bod wedi cynnig lle i chi ar gwrs y credwn fydd yn fwy addas.

Fe'ch hysbysir hefyd dros e-bost gan UCAS sut i dderbyn neu wrthod y cynnig cyn y dyddiad cau.

Cynigion Cyd-destunol

Mae’r Brifysgol yn gweithredu cynllun cynnig cyd-destunol sy’n ystyried nifer o ddangosyddion cyd-destunol a bydd yn gwneud llai o gynnig pan fydd ymgeiswyr yn cwrdd â’r dangosyddion hyn.

Nid oes angen gwneud cais am gynnig cyd-destunol gan y byddwn yn ystyried gwybodaeth a ddarperir fel rhan o’ch cais UCAS, ond mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gwblhau’n llawn.

Mae enghreifftiau o gynigion cyd-destunol yn cael eu manylu ar dudalennau cwrs ar wefan Met Caerdydd a chyfeiriwch at y Polisi Derbyn Cyd-destunol ar y wefan.

Term a ddefnyddir gan y Brifysgol i ddisgrifio natur feddygol neu bersonol yw amgylchiadau sy’n effeithio’n sylweddol ar ymgeisydd yn ystod cyfnod perthnasol o amser ac neu yn ystod cyfnod asesu/arholi yw ‘Amgylchiadau sy’n Lleihau Bai’. Mae Met Caerdydd yn ystyried amgylchiadau personol ac amgylchiadau sy’n lleihau bai fel rhan o’i pholisi Derbyn cyd-destunol a gall ymgeiswyr anfon gwybodaeth at askadmissions@cardiffmet.ac.uk​.

Dylai ymgeiswyr gynnwys: gwybodaeth a thystiolaeth o natur yr amgylchiadau allwthiol; pennu pa elfennau astudio gafodd eu heffeithio; a rhesymau pam nad oedd modd adrodd y rhain i’r bwrdd arholi perthnasol.

Gall ymgeiswyr hefyd ddefnyddio eu datganiad personol i hefyd roi gwybod i’r Brifysgol o amgylchiadau allwthiol. Gall cyfeirnodau ymgeiswyr hefyd fanylu ar wybodaeth a ystyrir yn briodol i’w hystyried. Dylid cyflwyno unrhyw ddogfennau atodol i Derbyniadau gan gynnwys enw llawn yr ymgeisydd a rhif UCAS neu rif y Myfyriwr.

Bydd gwybodaeth yn cael ei hystyried fel rhan naill ai o’r broses o wneud penderfyniadau neu gadarnhau ac mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ofyn am wybodaeth bellach os oes angen. Os ystyrir eu bod yn angenrheidiol a chyda chaniatâd yr ymgeiswyr cysylltir â thrydydd partïon perthnasol megis y reddf academaidd, y corff arholi a’r meddyg.

Bydd cynigion o le yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod academaidd a photensial ac er y bydd amgylchiadau’n cael eu hystyried fel rhan o asesiad cyfannol ni fyddant o reidrwydd yn arwain at gynnig o le neu gyfweliad.

Y disgwyl yw y byddai amgylchiadau sy’n effeithio ar asesu/arholiadau wedi cael eu hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol cyn dyfarnu’r canlyniadau ac nid ydym yn gallu ystyried amgylchiadau sy’n lleihau bai lle mae’r rhain eisoes wedi’u hadrodd.

Ail-ymgeisio

Dyledwyr

Bydd myfyrwyr sydd mewn dyled i'r Brifysgol sy'n gwneud cais o’r newydd yn cael cynnig lle ar yr amod bod y gofynion mynediad yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, bydd y cynnig hwn yn dibynnu naill ai ar glirio'r ddyled cyn dechrau'r rhaglen, neu trwy gytundeb ynghylch talu â’r adran Gyllid.

Gall ymgeiswyr gysylltu â’r adran Gyllid ynghylch dyled sy'n ddyledus naill ai dros E-bost: finance@cardiffmet.ac.uk; neu drwy ffonio Ffôn: 029 2041 6083

Am wybodaeth bellach am Bolisi a Gweithdrefn Dyledwr y Brifysgol, cliciwch yma.

Gadael dan gwmwl academaidd

Disgwylir i ymgeiswyr sydd wedi gadael y Brifysgol dan gwmwl academaidd h.y. heb gwblhau'r flwyddyn astudio y cawsant eu cofrestru ddiwethaf arni, drafod ailymgeisio gyda’r Uned Dderbyn, cyn cyflwyno cais. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried unwaith y bydd y wybodaeth am y statws academaidd gwael wedi'i derbyn a'i wirio. Gwneir y penderfyniad terfynol ynglŷn â derbyn gan y ddau Gyfarwyddwr Rhaglen sy'n ymwneud â'ch astudiaeth flaenorol ac arfaethedig.

Polisi Derbyn Myfyrwyr o Dan 18

Nid yw’r Brifysgol yn gwahaniaethu ar sail oedran ac mae’n derbyn nifer fach o fyfyrwyr yn flynyddol sydd o dan 18 oed ar ddyddiad dechrau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn amgylchedd i oedolion ac mae’n trin ei holl fyfyrwyr fel unigolion aeddfed ac annibynnol, ac mae myfyrwyr o dan 18 oed yn cael eu trin yn yr un ffordd.

Mae’r trefniadau llawn ar gyfer myfyrwyr o dan 18 wedi’u hamlinellu yn y Polisi Derbyn Myfyrwyr o Dan 18. Mae’r ddogfen yn ceisio bod yn benodol am gyfrifoldebau unigol perthnasol y Brifysgol, y myfyriwr, a rhieni/gwarcheidwaid. Mae’n ofynnol i bob myfyriwr o dan 18 oed gael gwarcheidwad penodol yn y DU, ac mae’n ofynnol i rieni arwyddo Ffurflen Ganiatâd yn ffurfiol cyn y gwneir cynnig diamod. Bydd y Ffurflen hon yn cael ei hanfon yn uniongyrchol yn ystod y broses dderbyn.

Asesu Statws Ffioedd

Mae'r wybodaeth a ddarperir yn eich cais fel arfer yn ddigonol i bennu statws eich ffi, h.y. p'un ai fyddwch chi'n talu ffioedd cartref neu dramor fel myfyriwr ym Met Caerdydd. Os yw statws eich ffi yn aneglur, anfonir Ffurflen Asesu Statws Ffi atoch, a bydd angen ei chwblhau a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen cyn gynted â phosibl. Os na ddychwelir y ffurflen hon, cewch eich cofrestru fel myfyriwr tramor at ddibenion ffioedd dysgu a chodir y gyfradd ffioedd uwch arnoch. I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon, cliciwch yma.

Matriciwleiddio

Polisi Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw gwirio pob cymhwyster cyn cofrestru. Cliciwch yma i weld ein polisi dilysu cymwysterau a matriciwleiddio.