Perfformiad Chwaraeon
Cyflawnwch eich potensial academaidd ochr yn ochr â hyfforddi, chwarae a pherfformio ar y lefel uchaf yn eich dewis chwaraeon.
Mae Met Caerdydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw ar gyfer chwaraeon myfyrwyr yn y DU. Rydym yn cynnig amgylchedd perfformio unigryw, sy’n canolbwyntio ar sicrhau eich bod chi’n cyflawni’ch dyheadau chwaraeon ac academaidd, gan osod y seiliau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyrff Llywodraethol Cenedlaethol Chwaraeon a Chwaraeon Cymru rydym yn darparu nifer o raglenni perfformiad sy’n cyd-fynd â llwybrau talent.
I ddarganfod mwy am sut brofiad yw ymuno â’r amgylchedd hwn a hyfforddi fel myfyriwr-athletwr ym Met Caerdydd, edrychwch ar y dolenni isod lle byddwch chi’n darganfod mwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, hyfforddwyr, ysgoloriaethau a gwasanaethau cymorth.
Darllen mwy