Hafan>Newyddion>Darlithydd seicoleg yn rhoi cyngor ar reoli blŵs Dydd San Ffolant

Darlithydd seicoleg yn rhoi cyngor ar reoli blŵs Dydd San Ffolant

​​​​​​​Newyddion | 13 Chwefror 2024

Gyda Dydd San Ffolant ar y gorwel, mae Dr Sarah Taylor, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnig rhywfaint o gyngor i bobl a allai gael trafferth bod ar eu pen eu hunain yr adeg hon o'r flwyddyn.

“Gall y cynnwrf cyfryngau yn y cyfnod cyn Dydd San Ffolant fod yn dipyn o straen i bobl sengl, gan ei fod yn aml yn portreadu disgwyliadau afrealistig o gariad a rhamant. Er na ddylai fod angen diwrnod penodol arnom i brofi cymaint yr ydym yn caru ac yn gofalu am y rhywun arbennig hwnnw, mae'r cyfryngau yn ceisio dweud fel arall wrthym. Wrth wneud hynny, mae'n diarddel y rhai sy'n sengl.

“Gall cael eich peledu'n gyson ag atgofion o gariad rhamantaidd waethygu teimladau o unigrwydd, tristwch, a hyd yn oed annigonolrwydd wrth i ni gymharu ein hunain ag eraill mewn perthnasoedd. Mae meddyliau ac emosiynau negyddol yn ymledu - ' Blŵs Dydd San Ffolant' - a gall wneud i berson sengl deimlo'n isel ac yn bryderus. Gall y teimladau hyn bara am sawl wythnos, yn enwedig i fenywod a'r rhai yn eu 30au a allai deimlo pwysau cymdeithasol i briodi a chael plant."

Gwnewch gynlluniau

“Felly sut gall pobl sengl osgoi blŵs Dydd San Ffolant? Wel, yr allwedd yw cynllunio. Cynlluniwch i gadw'n heini ac yn brysur, cynlluniwch i wneud rhywbeth neis i chi'ch hun a chynlluniwch i osgoi dod i gysylltiad ag amgylcheddau rhamantus - mewn bywyd go iawn ac ar-lein. Beth am ddangos cariad i chi'ch hun a phrynu anrheg i chi'ch hun? Gall gweithred o hunanfynegiant o'r fath fod yn rymusol. Fel arall, mae cysylltu ag eraill gan gynnwys teulu a ffrindiau yn gallu tynnu sylw a bod yn hwyl."

Mae'n iawn bod yn sengl

“Syniad arall yw cynllunio amser i hunan-fyfyrio. Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n chwilio amdano mewn perthynas ramantus, a beth allech chi ei wneud i gael yr hyn rydych chi ei eisiau. Edrychwch ar y darlun ehangach a myfyriwch ar ble rydych chi eisiau bod ymhen ychydig flynyddoedd, a sut y gallech chi gyrraedd y nod hwnnw.

“Yn y pen draw, er y gall perthnasoedd rhamantus fod yn foddhaus, nid oes angen i'ch bywyd gael ei ddiffinio gan eich statws perthynas. Gall Dydd San Ffolant fod yn gyfle perffaith i bobl sengl stopio, pwyso a mesur a chymryd rhan mewn hunan-gydnabod a derbyniad bwriadol. Mae'n iawn bod yn sengl."​

Mae Dr Sarah Taylor yn seiberseicolegydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae ei diddordebau yn seiliedig yn fras ar ddeall sut y cawn ein perswadio gan wybodaeth a gyflwynir ar-lein. Mae hi hefyd wedi ymchwilio i brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddyddio ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei phroffil academaidd​.