Hafan>Newyddion>Breuddwyd Olympaidd Joe Towns Met Caerdydd yn parhau ym Mharis

Breuddwyd Olympaidd Joe Towns Met Caerdydd yn parhau ym Mharis

Newyddion | 22 Gorffennaf 2024

Mae breuddwyd Olympaidd a fu’n bodoli ers Barcelona 1992 yn ail-ddechrau’r Haf hwn unwaith eto i Joe Towns o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Joe Towns


Bydd Joe, sef Arweinydd Arloesi ar gyfer Cyfryngau Darlledu Chwaraeon yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, yn gweithio fel Uwch Gynhyrchydd Teledu ar gyfer Olympic Broadcast Services (OBC), yn ystod Gemau Paris.

Bydd Joe yn goruchwylio’r darllediadau teledu byw a’r allbwn ar gyfer y Sianeli sy’n Darlledu’r gemau Olympaidd o’r Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol (IBC) ym Mharis.

Mae OBS, sef y sefydliad darlledu swyddogol ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, yn gyfrifol am gynhyrchu’r darllediadau teledu byw, radio a digidol sy’n darlledu i filiynau o wylwyr ledled y byd, gan ddarparu darllediadau diduedd, o ansawdd uchel o’r holl gystadlaethau chwaraeon, yn ogystal â’r Seremonïau Agoriadol a Chloi. Mae OBS hefyd yn cefnogi darlledwyr yn fyd-eang, gan eu helpu i roi sylw mwy personol i wasanaethau amrywiol, sylwebaeth a chyfweliadau ychwanegol wedi’u teilwra ar gyfer eu cynulleidfaoedd domestig.

Er mai dyma’r tro cyntaf i Joe weithio gydag OBS, nid yw’n ddieithr i’r Gemau Olympaidd. Dechreuodd siwrnai Olympaidd Joe yn 2000, pan weithiodd yng Ngemau Olympaidd Sydney ar ran Evening Post De Cymru, wrth iddo gychwyn fel newyddiadurwr chwaraeon a’n teithio ar hyd Awstralia. Wedi hynny, aeth i weithio i adran chwaraeon y BBC, ar gynhyrchiad gemau Olympaidd Llundain 2012 a gafodd ei alw unwaith eto i weithio gyda’r BBC ar gemau Olympaidd Rio 2016, lle bu’n gweithio am dair wythnos ym Mrasil fel aelod o Dîm Creadigol Chwaraeon Rhwydwaith y BBC.

Gan fyfyrio ar y cyfle newydd hwn, rhannodd Joe ei gyffro ac arwyddocâd y rôl: “Fel gweithiwr proffesiynol sy’n Darlledu Chwaraeon ac yn uwch ddarlithydd mewn darlledu chwaraeon, mae’n teimlo fel breuddwyd i fynd i weithio yng nghynhyrchiad darlledu chwaraeon mwyaf y byd lle byddaf yn rhan o dîm sy’n darparu darllediadau Olympaidd i filiynau o wylwyr ledled y byd.

“Dyw e ddim fel gweithio i’r BBC a ffafrio athletwyr a straeon o Brydain, mae’n rhaid i’r hyn sy’n cael ei ddarlledu fod yn ddiduedd ac mae darlledwyr ledled y byd wedi talu llawer o arian i gael sylw cywir, glan, o ansawdd uchel – felly bydd yr amgylchedd byw yn un sydd dan bwysau mawr bob dydd.

Dywedodd: “Mae’r diwydiant cyfryngau darlledu yn symud yn hynod o gyflym ac mae’n teimlo’n anodd cadw ar ben y don ar brydiau. Yn y Gemau Olympaidd hyn, bydd OBS yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, y camerâu gorau, ac yn cyflogi’r gweithredwyr gorau yn y maes darlledu i ddarparu’r sylw felly mae’n anrhydedd bod yn rhan ohono a bydd llawer i ddweud wrth y myfyrwyr sydd am ddod y tymor nesaf.”

Dechreuodd taith Olympaidd Joe ymhell cyn ei yrfa broffesiynol, pan fynychodd Gemau Olympaidd Barcelona gyda’i deulu ym 1992. Dyma oedd dechrau ar ei gariad at y Gemau Olympaidd a’i ysbrydoli i weithio ar nifer o’r Gemau ers hynny.

Dywedodd Joe: “Dwi’n cofio mynd i wylio Rowndiau Sbrint y Ras Gyfnewid Olympaidd yn y Stadiwm Athletau un bore, ac yna cerdded ar draws y ddinas i wylio Rownd Derfynol y ‘Dream Team’ yn Arena Pêl-fasged, UDA yn erbyn Croatia.

“Ro’n i’n meddwl am gymaint fyddwn i wrth fy modd yn gweithio mewn Gemau Olympaidd rhyw ddiwrnod. Mae pob un o’r Gemau Olympaidd dwi wedi gweithio arno wedi bod yn brofiad anhygoel, ac rwy’n siŵr na fydd eleni’n wahanol.”