Hafan>Newyddion>Mwy o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd yn ennill anrhydeddau rygbi rhyngwladol

Mwy o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd yn ennill anrhydeddau rygbi rhyngwladol

​Newyddion | 28​ Mehefin 2024​

​Mae “magwrfa ar gyfer chwaraewyr rygbi gemau prawf” Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynhyrchu grŵp arall o chwaraewyr rhyngwladol Cymreig.

Mae hanes Met Caerdydd o gynhyrchu chwaraewyr sydd wedi cyrraedd y llwyfan rhyngwladol yn cynnwys y chwaraewyr rhyngwladol presennol Aaron Wainwright ac Alex Dombrandt o Loegr a mawrion Cymreig y gorffennol fel JJ Williams a Syr Gareth Edwards.

Bellach mae mwy wedi ymuno â’r bwrdd anrhydeddau ym Met Caerdydd, ar ôl i’r cyn-fyfyriwr Ellis Bevan ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn pencampwyr y byd De Affrica, ac enwyd y myfyrwyr presennol Molly Reardon a Rosie Carr yng ngharfan y merched i herio Sbaen yn y WXV hollbwysig gêm ail gyfle yn erbyn Sbaen ar Barc yr Arfau, Caerdydd ddydd Sadwrn (Mehefin 29).

Dechreuodd Bevan y gêm gyda'r Boks, gan gystadlu yn erbyn y mewnwr Faf de Klerk a enillodd Cwpan y Byd dwbl.

A llwyddodd perfformiad Bevan i sicrhau lle iddo ar yr awyren i Awstralia, cyn dau brawf Cymru yn erbyn y Wallabies ym mis Gorffennaf.

Yn ôl yn 2022, fe wnaeth hyfforddwr Lloegr ar y pryd, Eddie Jones, labelu Met Caerdydd yn “fagfa ar gyfer chwaraewyr rygbi gemau prawf” ar ôl dewis deuawd Harlequins Dombrandt a Luke Northmore.

Ac mae detholiadau presennol y tîm cenedlaethol yn dangos nad yw rhaglen rygbi Met Caerdydd yn arafu. Mae Reardon a Carr yn ymuno â chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd Abbie Constable, Carys Phillips, Carys Cox, Catherine Richards a Lleucu George yn y garfan genedlaethol.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Merched Met Caerdydd, Lisa Newton: “Roedd Eddie Jones yn llygad ei le pan ddywedodd fod Met Caerdydd yn fagwrfa i chwaraewyr gemau prawf.

“Rydym yn hynod o falch o Molly a Rosie am eu hymroddiad a’u gwaith caled, sydd wedi ennill lle iddynt yng ngharfan genedlaethol Cymru.

“Mae gan Met Caerdydd hanes cyfoethog o ddatblygu chwaraewyr rygbi dawnus, ac mae’n ysbrydoledig gweld ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr yn cyflawni cymaint o lwyddiant rhyfeddol ar y llwyfan rhyngwladol. Mae hyn yn dyst i gryfder ein rhaglen rygbi ac ymrwymiad ein chwaraewyr a’n staff hyfforddi.”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Dynion Met Caerdydd, Ian Gardner: “Daeth Ellis i Met Caerdydd fel alltud Cymreig a daeth yn amlwg yn syth ei fod yn unigolyn hynod ysgogol a setlodd i’n perfformiad yn syth bin.

“Roedd yn gyfathrebwr ardderchog ar y cae ac nid oedd yn cael trafferth yn dweud wrth flaenwyr tua 18 stôn oedd yn eu trydedd neu bedwaredd flwyddyn o astudio beth i wneud.

Does gen i ddim amheuaeth y bydd hyn hefyd yn wir nawr ei fod wedi ymuno â charfan Cymru ac rwy'n siŵr y bydd Gatland a'i dîm hyfforddi wedi nodi ei hyder a'i foeseg waith.  

“Mae hefyd yn dweud lot am Ellis ei fod bob amser yn canmol Met Caerdydd ac wedi helpu mewn digwyddiadau recriwtio ar gyfer y brifysgol ers iddo raddio.”​