Graddau Ymchwil

Croeso i Raddau Ymchwil Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (CSAD).

Os ydych chi'n ystyried astudio ar gyfer gradd ymchwil rydych chi wedi cymryd y cam cyntaf ar daith ddeallusol gyfoethog, a gwerth chweil. Bydd gradd ymchwil yn eich trawsnewid, bydd yn ail-lunio'ch dealltwriaeth o'r byd ac ohonoch chi'ch hun. Mae'n daith gyffrous a heriol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi ar y siwrnai honno. 

Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn lle rhagorol i fod yn fyfyriwr ymchwil. Mae gennym ni ddiwylliant ymchwil creadigol hynod gefnogol sy'n fywiog a chyfoethog. Gwelir tystiolaeth o hyn yn yr ystod o grwpiau ymchwil sy'n gweithredu o fewn meysydd disgyblaethol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Rydym yn cydweithio lle gallwn gyda phartneriaid academaidd, diwylliannol a diwydiannol wrth i ni ymgysylltu â thechnolegau a syniadau blaengar yn ein hastudiaethau a’n hymchwil mewn peirianneg, celfyddyd faterol, celfyddyd gain, a damcaniaethau hanes ac athroniaethau celf a dylunio. Mae myfyrwyr ymchwil CSAD yn cynhyrchu gwybodaeth newydd ac yn cael effaith o fewn y DU ac ar draws y byd. Mae myfyrwyr ymchwil yn CSAD wedi cyhoeddi ymchwil ac wedi arddangos gyda goblygiadau i gymdeithas a'i diwylliannau niferus, i ddiwydiant a masnach ac ym mywydau a chymunedau unigol yn y DU a ledled y byd.

Dr Stephen Thompson
​Cydlynydd Astudiaethau Graddedig​: Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Cysylltu â Ni

E-bost: csadresdegrees@cardiffmet.ac.uk

Ffôn: 02920 416291


What We Offer
Ein Ymchwil
Dewch o hyd i wybodaeth am yr ystod o opsiynau sydd ar gael gennym i’ch cychwyn ar eich taith ymchwil.
Sut i Wneud Cais

​Sut i wneud cais am raddau ymchwil ym Met Caerdydd.

Sut i Wneud Cais​​​

Grwpiau Ymchwil

Hartref i amrywiaeth o ganolfannau a grwpiau sy’n cymryd rhan mewn ymchwil sy’n arwain y byd.