Arloesedd

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD) yn gartref i gyfoeth o arbenigedd dylunio a chreadigol ac mae'n gweithio'n rheolaidd gydag ystod eang o bartneriaid allanol i rannu a datblygu syniadau, gwasanaethau, cynnyrch a chyfleoedd newydd.

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid allanol i wella'r cyfleoedd i'n myfyrwyr cyfredol a'r rhai sy'n graddio drwy leoliadau profiad gwaith, briffiau byw, ymarfer proffesiynol a mentora. Rydym hefyd yn hapus iawn i rannu ein hymchwil, ein cyfleusterau a'n harbenigedd technegol gyda chi. Dyma rai enghreifftiau o'r busnesau a'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw:

  • Ysgolion, colegau, cyrff y sector cyhoeddus a grwpiau elusennol;
  • Gweithgynhyrchwyr, datblygwyr cynnyrch, cymdeithasau tai, penseiri, dylunwyr, dylunwyr tecstilau, animeiddwyr, artistiaid a chrefftwyr; ac;
  • Amgueddfeydd, orielau a chynhyrchwyr diwylliannol eraill

Cysylltwch â ni  i drafod sut y gallem weithio gyda chi a chefnogi'ch busnes!