Hafan>Llety>Sut rydyn ni'n dyrannu ystafelloedd

Sut rydyn ni'n dyrannu ystafelloedd

​*Pwysig*

Ni fyddwn yn gallu dyrannu lle mewn neuadd breswyl i unrhyw fyfyriwr heb inni dderbyn Ffurflen 'Cais Neuaddau' ar-lein wedi'i chwblhau. Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer llety neuadd i fyfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf. Dyrennir ystafelloedd mewn neuaddau yn nhrefn dyddiad.

Sylwch y bydd pob cynnig yn cael ei wneud trwy e-bost. Rhaid i chi sicrhau bod gennym eich cyfeiriad e-bost cyfredol i'n galluogi i brosesu'ch cais.

Bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu ein hysbysu os yw'n well ganddyn nhw fyw gyda chyd-siaradwyr Cymraeg. Yn dibynnu ar y galw, byddwn yn ceisio cwrdd â'r dewis hwnnw. Byddwch yn ymwybodol mai dim ond mewn neuaddau sydd wedi'u dynodi ar gyfer eu campws astudio y cynigir llety i fyfyrwyr.


Gwneir dyraniadau mewn dau gam

Mae cam cyntaf y dyraniadau yn cychwyn ganol mis Gorffennaf - mae hyn ar gyfer myfyrwyr sy'n gwneud cais cyn 31 Mai ac yn dal cynigion diamod. Bydd myfyrwyr diamod sy'n gwneud cais ar ôl 31 Mai yn cael eu rhoi yn ail gam y dyraniadau.

Mae ail gam y dyraniadau yn cychwyn ar ôl diwrnod y canlyniadau Safon Uwch ym mis Awst ac yn parhau hyd at ddechrau'r tymor. Ni allwn ond gwneud cynigion i fyfyrwyr sydd wedi derbyn cynnig diamod o le academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.​

Polisi Dyraniadau Neuaddau Preswyl 2023 (Dogfen Word)