Os ydych chi'n cael anhawster yn dod o hyd i'ch cyfrinair ar gyfer eich Cais Neuaddau, ewch i'ch cysylltiadau e-bost ac ychwanegwch
accomm@cardiffmet.ac.uk a
accomoffers@cardiffmet.ac.uk. Bydd hyn yn atal e-byst rhag mynd i mewn i'ch blwch sothach. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn defnyddio cyfeiriad gmail. Rydym yn argymell nad ydych yn defnyddio gmail na chyfeiriad e-bost ysgol.
Blaenoriaeth ar gyfer ystafell mewn neuaddau
Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ystafell yn y neuaddau preswyl i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Wrth ddyrannu ystafelloedd, rydym yn ystyried pa mor bell mae’r myfyrwyr yn byw o Gaerdydd a'r dyddiad y derbyniwyd y Cais Neuaddau ar-lein.
Bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu ein hysbysu os yw'n well ganddyn nhw fyw gyda chyd-siaradwyr Cymraeg. Yn dibynnu ar y galw, byddwn yn ceisio cwrdd â'r dewis hwnnw.
Sylwch, yn dibynnu ar y galw am neuaddau preswyl, os yw eich cyfeiriad cartref yng Nghaerdydd, cewch eich rhoi ar restr aros a chaiff ystafell ei dyrannu yn agos at ddechrau'r tymor, neu unwaith y bydd y tymor wedi dechrau.
Byddwn yn gwarantu lle i chi mewn llety a gymeradwyir gan y Brifysgol os ydych chi'n gwneud cais i fod yn fyfyriwr amser llawn ym Met Caerdydd am y tro cyntaf.
Er mwyn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer llety gwarantedig, mae angen i chi hefyd:
- fod erioed wedi bod yn fyfyriwr amser llawn ym Met Caerdydd yn y gorffennol
- bod wedi derbyn cynnig lle ym Met Caerdydd ac wedi gwneud Met Caerdydd eich dewis cyntaf trwy UCAS
- cyflwyno eich cais neuadd ar-lein am lety i ni erbyn 31 Mai fan bellaf
- bod angen y llety ar gyfer y cyfnod gosod llawn fel deiliad sengl
- derbyn ein cynnig o lety, a thalu eich blaendal cadw i ni cyn pen saith diwrnod ar ôl i ni roi'r cynnig i chi
- ddim yn byw yng Nghaerdydd fel y nodir yn ein Polisi Dyrannu Neuaddau
- sicrhau bod gennym lety addas presennol i ddiwallu eich anghenion.
Yn anffodus oherwydd y nifer gyfyngedig o neuaddau sydd ar gael, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd (gan gynnwys y rhai sydd wedi cwblhau blwyddyn sylfaen o'r blaen) oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Dylai myfyrwyr ôl-raddedig fod yn ymwybodol bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn meddiannu neuaddau ac efallai na fydd bywyd neuadd yn ffafriol i lwyth gwaith ôl-raddedig. Nid oes gennym neuaddau ôl-raddedig pwrpasol.
Bydd rhai â chynnig diamod (ddim yn lleol) sydd wedi gwneud cais cyn 31 Mai yn clywed cyn diwedd mis Gorffennaf ynghylch eu cynnig.
Bydd rhai â chynnig amodol (ddim yn lleol) yn clywed yn dilyn y canlyniadau 'Safon Uwch' ar yr amod eu bod yn derbyn cynnig diamod gyda Met Caerdydd. Ni allwn wneud cynnig ichi nes i chi nodi cynnig diamod ar system UCAS ar gyfer cwrs Met Caerdydd.
Myfyrwyr lleol - Byddwn yn dechrau dyrannu'r rhai o Gaerdydd ac sydd â chynnig diamod yn gyntaf, ar ôl i ni ddyrannu'r holl fyfyrwyr o'r tu allan i ffin Caerdydd.
Mewn blynyddoedd blaenorol, mae mwyafrif llethol y myfyrwyr lleol wedi cael llety. Arhoswch am ein cynnig cyn i chi archebu llety arall.
Eich helpu chi i ddod o hyd i le i fyw
Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus iawn. Mae'n amlinellu'r mathau o lety sydd ar gael, y gwasanaethau sydd ar gael a'r broses o ddyrannu ystafelloedd neuaddau.
Gweld y cyhoeddiad - Dod o hyd i le i fyw.
Bydd y Ffurflen Gais Neuaddau Preswyl ar gael o 1 Ebrill 2023.
Beth sy'n digwydd nesaf
Ar ôl i chi gwblhau eich cais ar-lein, bydd yn cael ei anfon yn awtomatig i'r Swyddfa Llety. Byddwch yn derbyn e-bost cydnabod y dylech ei gadw gan ei fod yn brawf o'ch cais. Os nad ydych wedi derbyn e-bost cydnabod o fewn 2 ddiwrnod, cysylltwch â'r Swyddfa Llety ar 02920 416188/89. Yna byddwn yn gwirio bod eich cais wedi dod i law.
Os gallwn gynnig lle i chi mewn neuadd, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chynnig. Gwiriwch eich blwch SOTHACH oherwydd weithiau fe all y neges lanio yn y blwch hwnnw. Os yw'r cynnig ar gyfer neuaddau Metropolitan Caerdydd, bydd yr e-bost yn cynnwys atodiadau y bydd angen eu hargraffu, eu llofnodi a'u hanfon yn ôl i'r Swyddfa Llety cyn pen 7 diwrnod ar ôl inni anfon yr e-bost. Os cynigiwn le i chi mewn unrhyw un o’r neuaddau preifat (nad ydynt yn eiddo i Met Caerdydd), yna bydd yr e-bost yn rhoi cyfarwyddiadau clir i chi ar sut i archebu'r ystafell benodol a ddyrennir i chi trwy eu system archebu ar-lein.
Os na fyddwch yn ymateb i'ch e-bost cynnig o fewn 7 diwrnod,
byddwn yn tybio nad oes angen y llety arnoch a bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a'i gynnig i ymgeisydd arall. Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster ymateb o fewn y cyfnod o saith diwrnod, cysylltwch â ni ar unwaith.
Pe bai'r holl neuaddau'n dod yn llawn ac nad oes gennym fwy o ystafelloedd ar ôl i'w cynnig, byddwn yn dal i'ch cadw ar ein rhestr aros am unrhyw gansladau sy'n digwydd ac yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd unrhyw ystafelloedd yn cael eu canslo. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am opsiynau llety amgen yn y sector preifat, megis tai myfyrwyr a neuaddau preifat eraill.