Neuaddau Preswyl
Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw darparu amgylchedd diogel a sicr i fyfyrwyr sy'n byw ar y campws, gyda staff cyfeillgar y Neuaddau ar gael i ddarparu cefnogaeth a chymorth trwy gydol eich arhosiad gyda ni.
Ar hyn o bryd mae gennym bron i 1000 o ystafelloedd gwely astudio ar gampysau Cyncoed a Phlas Gwyn. Yn ogystal, rydym hefyd yn dyrannu ychydig dros 1000 o o ystafelloedd i fyfyrwyr trwy gytundebau enwebu gyda neuaddau preifat sydd wedi'u lleoli ger y campysau. Dim ond trwy Met Caerdydd y mae'n rhaid archebu ystafelloedd y neuaddau preifat ac nid yn uniongyrchol gydag Unite. Gallwch wneud cais am Neuaddau ar-lein o ddydd Sadwrn 1af Ebrill 2023.
O fis Medi 2020 daeth campysau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn 'Ddi-fwg' ac ni chaniateir ysmygu ar unrhyw gampws.
Sicrhewch fod cytundeb 40 neu 42 wythnos ar gyfer Neuaddau yn addas ar gyfer eich astudiaethau, oherwydd os ydych yn dymuno gorffen yn gynharach yna bydd angen i chi ddod o hyd i lety arall. Bydd eich Ysgol Academaidd Met Caerdydd yn gallu cadarnhau pan ddaw eich cwrs i ben.
Rheolwr Neuaddau ym Met Caerdydd
Mae Rheolwyr Neuaddau Met Caerdydd yn bresennol ar bob un o’r campysau ac yn cael eu cefnogi gan dîm o wardeiniaid myfyrwyr hyfforddedig sydd fel arfer yn fyfyrwyr aeddfed neu yn eu blwyddyn olaf sydd wedi byw mewn neuaddau o’r blaen. Mae rotas dyletswydd gyda'r nos ac ar y penwythnos yn sicrhau bod aelod o staff a myfyriwr warden ar gael bob amser i ymdrin ag ymholiadau neu argyfyngau. Mae gan y darparwyr neuaddau preifat eu trefniadau diogelwch 24 awr eu hunain ar waith.
Cardiff Metropolitan University has signed up to the Universities UK/Guild HE Code of Practice for the Management of Student Housing which ensures that University owned and managed accommodation meets good practice levels along with minimum standards
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich gwaith caled i ganiatáu i bob un ohonom fyfyrwyr ar y campws deimlo'n ddiogel yn ystod cyfnod mor anodd i fyfyrwyr a staff. Gwerthfawrogir eich gwaith caled a'ch ymroddiad i'n cadw'n ddiogel yn fawr."Myfyriwr blwyddyn 1af - Mehefin 2021