Nid mater o roi to uwch eich pen yn unig yw byw mewn neuaddau, mae’n ymwneud â chwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Dyma lle bydd eich rhaglen Bywyd Preswylio yn helpu.
I lawer ohonoch sy’n byw mewn Neuaddau fydd eich blas cyntaf ar annibyniaeth a chael eich trin fel oedolyn. Bu’n rhaid i ni i gyd adael cartref ar ryw adeg a gall y tro cyntaf eich gadael yn teimlo braidd yn nerfus ond wedi’ch cyffroi gan yr holl beth. Peidiwch â phoeni er bod hynny’n normal a waeth beth mae unrhyw un yn ei ddweud, dyna sut roedden ni i gyd yn teimlo.
Gallwn eich sicrhau, heb os nac oni bai, hon fydd blwyddyn orau eich bywyd fel oedolyn.