Hafan>Llety>Neuaddau Preswyl Preifat

Neuaddau Preswyl Preifat

​​​​​​​Mae Met Caerdydd wedi sicrhau dros 1,200 o ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn neuaddau preswyl breifat, y mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n agos at y campysau. Mae pob un o’r Neuaddau’n cael eu gwasanaethu’n rheolaidd gan wasanaethau Bws Caerdydd neu’n ddigon agos i gerdded i’r campws.

Mae gan Met Caerdydd berthynas hirsefydlog gyda phob un o’r neuaddau hyn, sy’n darparu llety modern sy’n gyfeillgar i fyfyrwyr am bris gostyngol.

Cofiwch, i sicrhau ystafell yn un o’r Neuaddau hyn bydd angen i chi wneud cais trwy ni yn unig! Peidiwch â gwneud cais yn uniongyrchol gan y bydd yn costio mwy, bydd gennych gontract hirach ac efallai na fyddwch yn byw gyda myfyrwyr Met Caerdydd.


Unite Blackweir Lodge

Lleolir Unite Blackweir Lodge ger Campws Llandaf, gyda dros 400 o ystafelloedd a'r neuaddau a feddiannir gan fyfyrwyr Met Caerdydd yn unig. Mae pob un o’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl, sy’n hunanarlwyo ac sydd â chyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd, gyda setiau teledu yn y gegin/lolfa gymunedol. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i Ganol y Ddinas neu'n daith gerdded 25 munud i Gampws Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.​

Blackweir Lodge, Caerdydd CF10 3EY
(25 munud o Gampws Llandaf)

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Classic' - £157 yr wythnos
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' (ystafell fwy) -  £160 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Gwyddor Iechyd Caerdydd.

Gweld ar y Map

https://www.unitestudents.com/cardiff/blackweir-lodge

North Court

Mae North Court yn agos at Gampws Llandaf. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en​suite. Myfyrwyr Met Caerdydd yn unig sy’n meddiannu dros 230 o ystafelloedd a’r neuaddau. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith bws 10 munud i Ganol y Ddinas.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o ystafelloedd deiliadaeth sengl gwely dwbl sy’n hunanarlwyo ac sydd ag ystafelloedd ymolchi ensuite.

Heol y Gogledd, Caerdydd CF14 3BA
(10 munud o Gampws Llandaf)

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £153 yr wythnos

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 2' (ystafell fwy) - £160 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Gwyddor Iechyd Caerdydd.

Gweld ar y Map

https://www.unitestudents.com/cardiff/north-court

Unite The Bakery

Lleolir Unite The Bakery yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 5 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Heol Pendyris, Caerdydd CF11 6YY

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £145 yr wythnos

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed neu Llandaf.

https://www.unitestudents.com/cardiff/the-bakery


Unite Ty Pont Haearn

Lleolir Unite Ty Pont Haearn (a elwir hefyd yn TPH) yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Heol Pellett, Caerdydd CF10 4FS

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £151 yr wythnos

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 2' (ystafell fwy) - £167 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed neu Llandaf.

https://www.unitestudents.com/cardiff/ty-pont-haearn


Yugo Arofan House

Lleolir Yugo Arofan House​ oddi ar Heol y Ddinas yn agos i ganol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. O fewn pellter cerdded mae llawer o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 6 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am y daith 13 munud i Gampws Cyncoed.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, ac mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite.

Heol Vere, Caerdydd CF24 3DS

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Standard' - £145 yr wythnos (dim ond chwech ar gael)

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Classic' - £149 yr wythnos

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium' (ystafell fwy) - £159 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed.

yugo.com/en-gb/global/united-kingdom/cardiff/arofan-house