Beth yw'r opsiynau a chostau? - Cyncoed
Mae’r campws hwn yn cynnig pum categori o lety, ac mae’r costau’n seiliedig ar y safon berthnasol, y cyfleusterau ychwanegol sydd ar gael ac a ydych yn dewis opsiwn hunanarlwyo neu
arlwyo.
Wrth wneud cais am lety gallwch restru pa fath yr hoffech iddo gael ei ddyrannu yn nhrefn blaenoriaeth. Fodd bynnag, ni allwn bob amser warantu y byddwch yn cael eich dewis cyntaf.
Hunanarlwyo En-suite 'Classic'
£148 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos
Yn cynnig un stydi, ystafell wely en-suite gyda mynediad i gegin a rennir, llawn offer. Mae pob fflat yn cael ei rannu gan 8 myfyriwr.
Hunanarlwyo En-suite 'Premium'
£164 yr wythnos –
Cytundeb 40 wythnos
Mae pob ystafell yn cynnwys ¾ gwely gydag en-suite a mynediad i gegin a rennir gyda chyfarpar llawn. Mae pob fflat yn cael ei rannu gan 8 myfyriwr.
Arlwyo 'Classic' – gyda thoiledau a rennir.
£200 yr wythnos –
Cytundeb 40 wythnos
Mae pob ystafell yn cynnwys gwely sengl gyda mynediad i gyfleusterau ystafell ymolchi a rennir a chegin sylfaenol a rennir. Rhennir pob fflat rhwng 8-10 o fyfyrwyr. Dyma ein dewis mwyaf gwerth am arian tra'n rhoi'r cyfleustra i chi o fod ar y campws ac yng nghanol ein cymuned myfyrwyr.
Arlwyo En-suite 'Premium'
£224 yr wythnos –
Cytundeb 40 wythnos
Mae pob ystafell yn cynnwys un ai gwely sengl neu ¾ gwely gydag ensuite a mynediad i gegin a rennir. Rhennir pob fflat rhwng 10-16 o fyfyrwyr.
*Neuaddau arlwyo = dau pryd o fwyd y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Darganfod mwy am gostau
Darganfod mwy am neuaddau arlwyo