Rydym yn deall y bydd sicrhau eich lle mewn neuaddau yn ystyriaeth fawr fel ymgeisydd Clirio.
Mae tîm llety Met Caerdydd wrth law i'ch helpu chi i wneud cais am le mewn neuaddau neu sicrhau lle mewn llety preifat.
I wneud cais cliciwch ar y botwm "Ymgeisiwch Nawr" isod. Sylwch: bydd angen eich ID Met Caerdydd neu ID UCAS Personol arnoch er mwyn gallu cael mynediad i'r ffurflen gais ar-lein.
PWYSIG:
Ymdrinnir â cheisiadau neuaddau yn ystod Clirio yn nhrefn dyddiad a'ch pellter o Gaerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y wybodaeth 'Sut rydyn ni'n dyrannu ystafelloedd' ar ein tudalennau gwe llety.
Wrth wneud eich cais ar-lein, gofynnir i chi ddewis eich pedwar dewis llety yn seiliedig ar y campws y byddwch yn astudio ynddo. Sylwch, er ein bod yn ystyried eich dewisiadau ni allwn warantu eich dewis a ffefrir.
Os byddai'n well gennych chi fyw mewn tŷ rhent preifat, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod gan fod y Swyddfa Llety yn cadw rhestr o landlordiaid sydd ag eiddo sy'n addas i fyfyrwyr, sy'n cwrdd â'r holl ofynion deddfwriaethol ac nad ydyn nhw'n codi unrhyw ffioedd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar
accomm@cardiffmet.ac.uk, neu ffoniwch ni ar 029 2041 6188/89 a byddwn yn hapus i helpu a rhoi cyngor i chi.
Sgwrs Fyw
Mae'r tîm llety hefyd ar gael trwy Sgwrs Fyw ar y dudalen hon a'r tudalennau gwe llety i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â gwneud cais am le mewn neuaddau.
SYLWCH: Mae argaeledd gwasanaeth sgwrsio byw llety yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener a gall amseroedd newid.
Mae mwy o wybodaeth am ein neuaddau preswyl ar gael ar ein
tudalennau gwe llety.