Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd y rôl sydd ganddi i’w chwarae wrth reoli amgylchedd ei hystâd ac wrth hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd ar draws pob gweithgaredd, gan gynnwys addysgu ac ymchwil. Bydd y Brifysgol yn rheoli ei risgiau amgylcheddol mewn modd cynaliadwy trwy gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a mabwysiadu arfer gorau lle bo hynny’n briodol.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod diffiniad eang o gynaliadwyedd, yn seiliedig ar ymhél â datblygiadau sy’n diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae’r holl weithgareddau cynaliadwyedd yn rhan o’r Strategaeth Gynaliadwy ac yn cael ei arwain gan y Prif Swyddog (Adnoddau).
Caiff Effeithiau Amgylcheddol eu hadolygu bob blwyddyn fel rhan o’n System Reoli Amgylcheddol; nodir y rhain yn yr
Adroddiad Blynyddol ac yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd.
Dilynwch ni ar unrhyw un o'r cyfryngau cymdeithasol isod: