Hafan>Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd

Cynaliadwyedd @ CMet

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd y rôl sydd ganddi i’w chwarae wrth reoli amgylchedd ei hystâd ac wrth hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd ar draws pob gweithgaredd, gan gynnwys addysgu ac ymchwil. Bydd y Brifysgol yn rheoli ei risgiau amgylcheddol mewn modd cynaliadwy trwy gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a mabwysiadu arfer gorau lle bo hynny’n briodol.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod diffiniad eang o gynaliadwyedd, yn seiliedig ar ymhél â datblygiadau sy’n diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae’r holl weithgareddau cynaliadwyedd yn rhan o’r Strategaeth Gynaliadwy ac yn cael ei arwain gan y Prif Swyddog (Adnoddau).

Caiff Effeithiau Amgylcheddol eu hadolygu bob blwyddyn fel rhan o’n System Reoli Amgylcheddol; nodir y rhain yn yr Adroddiad Blynyddol​ ac yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd.

  • ​​​
  • ​​​

Adroddiadau Cynaliadwyedd a’r Amg
Polisïau, Strategaethau a Chynllu
System Reoli Amgylcheddol
Darn o'r Cynllun Strategol

"Mae Metropolitan Caerdydd yn brifysgol flaengar. Rydym yn gweithio gyda phwrpas, effaith a thosturi a bob amser mewn partneriaeth. Rydym yn gwneud economïau yn fwy ffyniannus, cymdeithasau’n decach, diwylliannau’n gyfoethocach, amgylcheddau’n wyrddach a chymunedau yn iachach..." Darllenwch ragor