Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Sustainability and Environmental Reports

Adroddiadau ar Gynaliadwyedd a'r Amgylchedd

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

Adroddiadau blynyddol ar Gynaliadwyedd a'r Amgylchedd

Yn ystod pob blwyddyn, mae Met Caerdydd yn cymryd camau i gydlynu gwahanol linynnau ei gweithgaredd ar agenda cynaliadwyedd. Adroddir bob blwyddyn i'r Pwyllgor Cynaliadwyedd a Bwrdd y Llywodraethwyr ar y cynnydd o ran mentrau amgylcheddol a chynaliadwyedd ac adolygiad polisïau.

Cofnodir cyfraniadau amgylcheddol tuag at Strategaeth y Brifysgol Iach hefyd.

Cynlluniau Teithio

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi teithio cynaliadwy, er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff, a chwarae ein rhan fel aelod cyfrifol o'r gymuned leol.

Mae ein Cynllun Teithio​​​​​ yn darparu fframwaith cynhwysfawr i adolygu a gwella arferion teithio'r Brifysgol yn barhaus, ac mae'n elfen hanfodol o werthoedd corfforaethol y Brifysgol.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ym ymrwymedig i gefnogi teithio cynaliadwy, er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff, a chwarae ein rhan fel aelod cyfrifol o'r gymuned leol.

Cydnabuwyd ein dull llwyddiannus o gynllunio teithio â Gwobr Lefel Aur Cynllunio Teithio Cymru yn 2011 a Phlatinwm yn 2016.
​​​​