Ymgynghoriad

A Healthy University aspires to create a learning environment and organisational culture that enhances the health, wellbeing and sustainability of its community and enables people to achieve their full potential.

(www.Healthyuniversities.ac.uk)

​​

Syniadau Cynaliadwyedd

Dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth! Gallai'r syniad cynaliadwyedd hwnnw sydd wedi bod ar eich meddwl ers tro ddod yn realiti. Waeth a ydych yn fyfyriwr, yn aelod o staff neu'n ymwelydd, dyma'ch cyfle i wneud profiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd ychydig yn well.

Pam trafferthu?

Mae eich syniad cynaliadwyedd yn cyfrif, mae hwn yn gyfle i chi gael eich clywed ac efallai helpu i lunio dyfodol agenda cynaliadwyedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Croesawir pob syniadau cynaliadwyedd – cofiwch, gallai hyd yn oed yr awgrym lleiaf wneud gwahaniaeth mawr. Caiff y syniadau hyn eu cyflwyno a’u hystyried yng Nghyfarfodydd tymhorol y Grŵp Cynaliadwyedd fel rhan o'n System Reoli Amgylcheddol (EMS).

Megis?

Oes gyda chi syniad gwych ar gyfer prosiect am gynaliadwyedd? Mae cyllid ar gael ar gyfer mentrau ar thema cynaliadwyedd dan arweiniad staff neu fyfyrwyr bob blwyddyn academaidd. Yn 2023/24 darparwyd cyllid i gefnogi'r prosiect Dyfodol Tyfu Cynaliadwy​.

Cysylltwch â sustainability@cardiffmet.ac.uk.

Cafodd awgrymiad diweddar am Oerydd Dŵr ychwanegol ei gymeradwyo, a'i ariannu gan y Pwyllgor Cynaliadwyedd (gweler astudiaeth achos Oerydd Dŵr).​

Grwpiau Ffocws

Mae'r broses ymgynghori ar gyfer polisïau a strategaethau yn rhoi cyfle i staff, myfyrwyr, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill ddarparu adborth naill ai'n bersonol neu ar-lein mewn grwpiau ffocws blynyddol, yn ogystal â thrwy gydol y flwyddyn trwy e-bostio'r adran gynaliadwyedd. Yna mae'r adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried yn ffurfiol trwy Bwyllgor Cynaliadwyedd y Brifysgol neu weithgorau perthnasol eraill. Mae'r adborth hwn yn cael ei ystyried yn ystod yr adolygiad blynyddol o'r holl bolisïau a strategaethau cynaliadwyedd.

Strategaethau