Mae amcanion allweddol y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn cynnwys:
Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rhwymedigaethau eraill
Gwarchod a gwella bioamrywiaeth ystâd y Brifysgol
Osgoi defnyddio sylweddau, deunyddiau a phrosesau sy'n niweidiol i'r amgylchedd
Defnyddio plannu brodorol a datblygu cynefinoedd addas ar gyfer bywyd gwyllt brodorol
Cynnwys bioamrywiaeth mewn gweithgareddau penderfynu ynghylch buddsoddi, caffael, cynllunio a dylunio, adeiladu newydd, gwasanaethu a chynnal a chadw
Creu mannau gwyrdd newydd a sicrhau rhwydweithiau ecolegol, ehangu cwmpas blodau gwyllt a threialu cyfundrefnau torri llai o gwair.
Compostio ar y safle ac ailddefnyddio'r holl fiomas sy'n deillio o gynnal a chadw tiroedd
Defnyddio bioamrywiaeth i hybu iechyd a llesiant
Lleihau a lliniaru effeithiau negyddol gweithrediadau’r brifysgol ar yr amgylchedd
Codi ymwybyddiaeth o warchod bioamrywiaeth yn fewnol ac yn allanol
Datblygu cysylltiadau â sefydliadau allanol perthnasol
Monitro bioamrywiaeth yr ystâd trwy arolygon rhywogaethau a chynefinoedd
Sefydlu Gweithgor Bioamrywiaeth i gydlynu gweithredu bioamrywiaeth ar y campws
Mae'r Brifysgol hefyd yn monitro ac yn rheoli bioamrywiaeth fel rhan o'i System Rheoli Amgylcheddol achrededig ISO14001:2015. Yn unol â gofynion safon ISO14001:2015, mae hyn yn golygu mai’r Is-Ganghellor a Gweithrediaeth y Brifysgol sy’n bennaf gyfrifol am gyflawni amcanion a thargedau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â bioamrywiaeth.
Ar hyn o bryd mae tri tharged o fewn y System Reoli Amgylcheddol yn ymwneud â bioamrywiaeth.
a) Hyrwyddo cadwraeth a gwelliant bioamrywiaeth ar draws ystâd y Brifysgol
b) Cynyddu ardaloedd o laswelltir heb ei wella/dolydd blodau gwyllt ar draws ystâd y Brifysgol
c) Adolygu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Brifysgol bob tair blynedd
Fel rhan o'r System Reoli Amgylcheddol, adroddir ar gynnydd ar fioamrywiaeth i'r Grŵp Cynaliadwyedd fel rhan o'r Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol a'r Adolygiad Rheoli Blynyddol. Yna caiff hyn ei adrodd i'r Is-Ganghellor a'r Pwyllgor Gwaith gan Gadeirydd y grŵp.
Mannau Gwyrdd ar y Campws
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i hamgylchynu gan ardaloedd helaeth o fioamrywiaeth. Mae Campws Llandaf wrth ymyl Parc Bute, gydag erwau o fannau gwyrdd, un o brif atyniadau Caerdydd. Mae'r parc yn cynnwys coederddi godidog a chyfoeth o ddiddordeb archeolegol a chadwraeth natur. Mae Afon Taf a Llwybr Taf hefyd yn rhedeg drwyddo.
Mae Campws Cyncoed wrth ymyl ein dau hectar o goetir aeddfed. Mae gan y ddau gampws fannau gwyrdd o gaeau a dolydd helaeth sy'n hybu bioamrywiaeth. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd rhan yn ymgyrch genedlaethol Mai Di Dor bob blwyddyn, gan adael blodau gwyllt i dyfu i helpu peillwyr fel gwenyn, gloÿnnod byw a gwyfynod.
Gwenyn ar y Campws
Yn ogystal â diogelu a gwella bioamrywiaeth ein campysau a’n tir, rhan greiddiol o’n nodau yw ymgysylltu’n fwy rhagweithiol â myfyrwyr, staff a’n cymuned leol, addysgu a chyfathrebu pwysigrwydd bioamrywiaeth, ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan. mewn mentrau bioamrywiaeth a gweithredu ar yr hinsawdd.
Ers 2019, mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ei chychod gwenyn ei hun ar y campws, sydd wedi dod â phobl ynghyd a chreu awydd i gymryd rhan. Bob haf, mae’r Adran Cynaliadwyedd, mewn cydweithrediad â Rob Lewis, ein darlithydd a’n gwenynwr yn cynnal Gweithdai Gwenyn lle gall pobl ddysgu mwy am bwysigrwydd bioamrywiaeth a chyflwyno syniadau ar sut y gallwn wella ein mannau gwyrdd o flwyddyn i flwyddyn. Yn ogystal, rydym yn aml yn trefnu Teithiau Cerdded Natur a Chanfod Blodau i annog pobl i gysylltu â byd natur.
Cyhoeddir Gweithdai Gwenyn a digwyddiadau eraill bob blwyddyn ar ein tudalen Digwyddiadau ac Eventbrite.
Cymryd rhan
Cysylltwch â ni yn
sustainable@cardiffmet.ac.uk os ydych chi eisiau gwybod mwy, gwirfoddoli i helpu neu os oes gennych chi syniad yr hoffech chi siarad amdano.