Mae cynnyrch sy'n Fasnach Deg yn golygu bod safonau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wedi'u gosod ar y cwmnïau a'r ffermwyr a'r gweithwyr a dyfodd y cynhyrchion. Mae'n golygu y bydd y gweithwyr hynny wedi cael prisiau gwell ac wedi cael amodau gwaith gweddus. Mae'r marc Masnach Deg yn golygu y bydd cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd sy'n datblygu wedi cael eu cefnogi.
Mae'r rhain i gyd yn werthoedd y credwn fel Prifysgol y dylid eu cefnogi ac y dylem helpu i ymgyrchu ar gyfer y math hwn o gefnogaeth i ffermwyr a gweithwyr fod yn gyffredinol. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Metropolitan Caerdydd wedi bod yn cefnogi ac yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg er 2003 ac wedi ennill achrediad Masnach Deg yn 2007 gan Sefydliad Masnach Deg y DU. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cael ein hail-achredu o dan y meini prawf wedi'u diweddaru newydd.
Mae Met Caerdydd yn cefnogi Masnach Deg trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys:
Cael Grŵp Llywio Masnach Deg sy'n cwrdd bob tymor
Gwerthu Cynhyrchion Masnach Deg yn holl allfeydd manwerthu ac arlwyo'r Brifysgol a'r Undeb Myfyrwyr
Dathlu a hyrwyddo Pythefnos Masnach Deg bob blwyddyn
Gweini Te a Choffi Masnach Deg mewn lletygarwch
I gael mwy o wybodaeth am beth yw Masnach Deg a pham rydym yn credu y dylech gefnogi cynhyrchion Masnach Deg ewch i
Wefan y Sefydliad Masnach Deg.
Mae'r Grŵp Llywio Masnach Deg wedi creu Cynllun Gweithredu CAMPUS sy'n dangos eu nodau a'u hamcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r ddogfen hon yn cael ei diweddaru'n gyson a dangosir y fersiwn gyfredol yma: Cynllun Gweithredu Campws Masnach Deg.
Mae'r Polisi Masnach Deg yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ac mae ar ffurf ddrafft. Pan fydd wedi'i gyhoeddi, bydd ar gael yma. I weld y polisi cyfredol, ewch i
Polisïau, Strategaethau a Chynlluniau.
Cyfeiriwch at dudalen
Masnach Deg Undeb y Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau, cyfarfodydd, digwyddiadau ac arolwg Masnach Deg ar y cyd.
Os ydych am roi adborth ar y polisi cyfredol neu gymryd rhan yn yr
ymgynghoriad ar gyfer polisïau drafft, e-bostiwch
sustainability@cardiffmet.ac.uk neu
studentunion@cardiffmet.ac.uk. Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu yn y Grŵp Llywio Masnach Deg a / neu'r Pwyllgor Cynaliadwyedd bob tymor.