Cynaliadwyedd yn y cwricwlwm

​​

Mae cefnogi a datblygu gwerthfawrogiad myfyrwyr o ddatblygiad cynaliadwy ar gyfer lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn ymhlyg yn y Fframwaith EDGE, sy’n rhoi mynegiant ymarferol i ddull ‘gyrru gan werthoedd’ Met Caerdydd. Cyflawnir hyn trwy ganolbwyntio ar:

  • ddatblygiad cynaliadwy fel agwedd o elfennau Byd-eang a Moesegol EDGE y mae’n uchelgais gan y brifysgol ei ddatblygu ym mhob myfyriwr trwy eu hastudiaethau cwricwlaidd a gweithgareddau allgyrsiol 
  • greu cymuned ymarfer sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac sy’n dwyn myfyrwyr, academyddion a staff cymorth o bob rhan o’r sefydliad ynghyd er mwyn codi ymwybyddiaeth a datblygu ymarfer
  • ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried effaith agendâu sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd o safbwyntiau unigol, proffesiynol a chymdeithasol
  • gefnogi myfyrwyr i ddysgu trwy arferion datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag amdanynt, trwy ymgorffori profiadau dysgu dilys sy’n canolbwyntio ar agendâu datblygu cynaliadwy perthnasol o fewn cwricwla disgyblaethol 

Mae CGA yn darparu rôl allweddol wrth hyrwyddo a datblygu cynaliadwyedd yn y cwricwlwm, ac mae'n cefnogi staff i gyflawni'r uchelgeisiau uchod drwy sawl menter, gan gynnwys:

  • Cefnogi a diddori staff trwy ddeunyddiau ar-lein. Mae CGA wedi datblygu adnoddau – gan gynnwys cyngor, astudiaethau achos a deunydd ffynhonnell cysylltiedig, sy'n cynnig ffyrdd pragmataidd o ymwreiddio cynaliadwyedd yn y cwricwlwm
  • Mae CGA wedi sefydlu fforwm ar-lein i staff a myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol – gan alluogi adnabod cyfleoedd a rhannu arfer gorau
  • Mae proses wedi'i ddiweddaru ar gyfer cymeradwyo rhaglenni newydd ac addasu rhai presennol ym Met Caerdydd wedi'i sefydlu, ac mae CGA wedi datblygu casgliad o dempledi cynllunio rhaglenni newydd sy'n cynnwys cyfeiriad at sawl agwedd o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC)
  • Mae CGA wedi ailfeddwl darpariaeth yr hyfforddiant proffesiynol i staff mewn sefydliadau Partner. Mae'r adnoddau a'r gweithdai hyn yn cefnogi staff academaidd mewn sefydliadau Partner heb yr angen i deithio'n rhyngwladol, trwy ddefnyddio dulliau hybrid/ar-lein
  • Er mwyn rhoi llais i safbwyntiau cenedlaethau'r dyfodol, mae CGA wedi recriwtio Tîm Amgyffred Myfyrwyr. Mae'r rolau â thâl hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu ledled Met Caerdydd, ac maen nhw'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar farn, pryderon ac anghenion myfyrwyr, gan gynnwys yr agenda cynaliadwyedd
  • Cyflwyno digwyddiad 'Gŵyl y Dysgu' CGA ym mis Mehefin 2023, gan gynnwys ffocws ar gynaliadwyedd o fewn y cwricwlwm.  Bydd cydweithwyr yn cael y cyfle i archwilio a thrafod yr heriau a'r cyfleoedd

Bydd manylion llawn strategaeth galluogi Dysgu ac Addysgu Met Caerdydd, sy’n ail-fframio priodoleddau EDGE y Brifysgol drwy lens cynaliadwyedd, yn cael eu cyhoeddi ar ôl ei chymeradwyo gan Fwrdd y Llywodraethwyr ar 6 Gorffennaf.