Fel rhan o'i hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a denu staff i wneud gwahaniaeth, mae'r Brifysgol wedi rhoi e-fodiwl ar-lein ar waith sy'n orfodol ar gyfer dechreuwyr newydd a gellir cael mynediad ato hefyd fel rhan o'r broses datblygu staff. Mae staff hefyd yn cael cyfle gyda myfyrwyr i gael eu hyfforddi fel Archwilwyr Amgylcheddol EMS y Brifysgol. Darllenwch yr astudiaeth achos (PDF).
Cyrsiau Datblygu Staff
Gweithdai Staff a Myfyrwyr
Archebwch le ar y Gweithdai Gwyrdd am ddim i staff a myfyrwyr - gweler y dudalen Newyddion a Digwyddiadau am sut i archebu.
Mewn partneriaeth â Dinas Werdd, rydym wedi cynnig syniadau newydd eleni i staff a myfyrwyr ddysgu ac ystyried gwneud rhywbeth gwahanol, e.e. Cartref Diwastraff, Gardd Ddiwastraff a Chegin Ddiwastraff.
Sesiwn Ymsefydlu Myfyrwyr
Mae myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl hefyd yn cwblhau Sesiwn Ymsefydlu ar-lein sy’n ymwneud â gwahanu gwastraff, sŵn ac opsiynau teithio cynaliadwy.
Mae pob myfyriwr yn mynychu Ffair y Glas, sydd â stondinau gwybodaeth ar Reoli Gwastraff a Theithio Cynaliadwy a Llety Caerdydd / Cyfleoedd Gwirfoddoli.
Mae'r cydweithrediad ag Ysgol Reoli Caerdydd (modiwl Busnes ar Waith) wedi arwain at gyflwyno holiadur a ddyluniwyd gan fyfyrwyr i holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af sy'n symud ymlaen i'w hail flwyddyn, o'r enw Neuadd i Gartref, mewn partneriaeth â Llety Caerdydd.
Darllenwch yr astudiaeth achos(PDF).
Neuadd i Gartref (sgrinluniau PDF)
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn rhaglenni Ymsefydlu Ysgolion.
Cydnabyddir yr Archwiliad Mewnol o’r System Reoli Amgylcheddol fel rhan o'r Wobr HEAR.
Cymryd rhan yng Ngwobr Met Caerdydd - Llwybr Meddwl Cynaliadwy