Cymryd Rhan

Gwneud Sebon Naturiol, Gweithdai Gwyrdd 2020

Mae yna nifer o gyfleoedd i staff a myfyrwyr ymgysylltu â mentrau cynaliadwyedd ym Met Caerdydd.

Ar gyfer Myfyrwyr a Staff

  • Dysgwch sgiliau cynaliadwy yn ein Gweithdai Gwyrdd misol rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr- gwiriwch rhain ar Newyddion a Digwyddiadau.
  • Caru draenogod? Helpwch ni yn ein nod i ddod yn gampws Draenog gyfeillgar!
  • Mae cyllid ar gael ar gyfer mentrau ar thema cynaliadwyedd dan arweiniad staff neu fyfyrwyr bob blwyddyn academaidd, cysylltwch â Sustainability@cardiffmet.ac.uk​
  • Ymunwch ag awgrymiadau a syniadau Wythnos Ewch yn Wyrdd 
  • Yn credu mewn Masnach Deg? Gallech ymuno â'n grŵp Llywio Masnach Deg!
  • Dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram i gael gwybodaeth am y gwaith cynaliadwyedd a digwyddiadau yn y Brifysgol!
  • Dewch i gymryd rhan yn y Diwrnodau Cymunedol misol a’r Caffi Atgyweirio - Edrychwch ar dudalen Newyddion a Digwyddiadau.
  • A oes gennych syniad gwych o ran sut i wella cynaliadwyedd Met Caerdydd neu sut i gyfathrebu ein gwaith i fyfyrwyr neu staff eraill? Anfonwch eich syniadau atom neu hyd yn oed gymryd rhan yn y broses ymgynghori flynyddol ar gyfer ein polisïau a'n strategaethau cynaliadwyedd. Gweler y Dudalen Ymgynghori am fwy o wybodaeth.
  • Dewch yn rhan o'r ymgyrch i gasglu cwpanau coffi untro ar y campws, cysylltwch â Sustainability@cardiffmet.ac.uk.
  • Gwirfoddolwch gyda phrosiect Gardd Gymunedol Met Caerdydd ar gampws Llandaf, cysylltwch â: Gardd Gymunedol, gardening@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer myfyrwyr

Ar gyfer y staff

  • Mae cyfleoedd i staff ymgysylltu ar gael mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a mentrau. Cymryd rhan neu hyd yn oed gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau Wythnos Go Green gyda myfyrwyr.
  • Gwirfoddolwch i fod yn Archwiliwr Amgylcheddol hyfforddedig o'n system rheoli amgylcheddol, gan weithio mewn timau gyda myfyrwyr.
  • Cynrychiolwch eich Ysgol neu'ch Uned ynghyd â Pherchnogion Agweddau yng nghyfarfodydd tymhorol y Pwyllgor Cynaliadwyedd.

Cysylltwch â Sustainability@cardiffmet.ac.uk neu'ch Ysgol/Uned - cynrychiolydd Hyrwyddwr Gwyrdd.

  

Facebook - Cardiff Met Sustainability Engagement

Twitter – CMet Sustainability Engagement

Instagram - Cardiff Met Sustainability Engagement