Hafan>Ymchwil>Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Dangoswyd gan ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2021 fod Met Caerdydd wedi creu ymchwil blaenllaw ar draws ei chyflwyniad cyfan, a chafwyd fod bron i ddau draean o’r allbynnau ymchwil yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu’n Arwain y Byd.

 

Gwnaeth Met Caerdydd ei chyflwyniad mwyaf a mwyaf cynhwysol erioed, gan gyflwyno pedair gwaith yn fwy o staff o’i gymharu ag ymarfer 2014

 

Cyflwynwyd i bum Uned Asesu ac roedd pob un yn cynnwys ymchwil a oedd yn Arwain y Byd ac yn cynnwys ymchwilwyr o bob un o Ysgolion a Chanolfannau Ymchwil Annibynnol y Brifysgol

70%

Ystyriwyd 70% o’n cyflwyniad cyffredinol yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu’n Arwain y Byd

 

Rhestrwyd ein cyflwyniad i Uned Asesu’r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Twristiaeth a Hamdden yn y 10 uchaf yn y DU, o ran Grym Ymchwil

 

Rhestrwyd ein cyflwyniad i’r Uned Asesu Celf a Dylunio yn gydradd ail yn y DU ar effaith ymchwil

80%

Rhestrwyd bron i 80% o’n heffaith ymchwil naill ai’n Rhagorol yn Rhyngwladol neu’n Arwain y Byd

Effaith Ymchwil

Cafodd ein hymchwil effaith bellgyrhaeddol – gan drawsnewid bywydau, lleihau anafiadau a dioddefaint, creu ac achub swyddi a chyflawni budd economaidd sylweddol. Mae’r astudiaethau achos isod yn amlygu’r effaith y mae ein hymchwil wedi’i gael.

HUG™ - trawsnewid ansawdd bywyd pobl â dementia datblygedig

Cymhwyso ymchwil dylunio i werth therapiwtig gwrthrychau chwareus.

Ecosystemau Dylunio Rhyngwladol

Effaith ymchwil dylunio ar gystadleurwydd BBaCh.

Technolegau Rhyngweithiol mewn Addysgu Ieithoedd (iTiLT)

Gwella defnydd addysgwyr o dechnoleg wrth addysgu ieithoedd ar draws Ewrop ac Ewrasia.

Y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru

Effaith ymchwil ar uwchsgilio athrawon i drawsnewid y Cwricwlwm newydd yng Nghymru’n sylfaenol.

Prosiect Calonnau Primatiaid Rhyngwladol

Effaith ymchwil gwyddor ymarfer corff ar iechyd, lles a goroesiad epaod mawr.

Addysgu ac ymarfer proffesiynol hyfforddwyr

Datblygu ymarfer proffesiynol o ansawdd uchel drwy ymchwil cydweithredol â hyfforddwyr ac ymarferwyr proffesiynol.

Datblygiad Corfforol Ieuenctid

Mae ymchwil i allu athletaidd hirdymor plant a phobl ifanc wedi effeithio ar bolisi ac ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol.

Atal a rheoli anafiadau i’r pen

Effaith ymchwil goruchwyliaeth ar anafiadau ar nodi ac atal anafiadau i’r pen mewn criced a rygbi’r undeb.

Datblygu cynnyrch bwyd a chydymffurfiaeth â safonau gweithgynhyrchu diogelwch bwyd

Arloesi wedi’i yrru gan ymchwil mewn datblygu cynnyrch heb glwten.

Achub bywydau ac aelodau ym Mauritius

Effaith cyflwyno sgrinio ar gyfer Clefyd Rhedwelïol Ymylol ym Mauritius ar bobl â Diabetes.

Arloesi a gwella diogelwch bwyd

Effaith gwaith KITE ar sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru.

Rhaglen Arweinyddiaeth 20Twenty a Dyfodol Adeiladu Cymru

Effaith hyfforddiant arweinyddiaeth ar sail ymchwil ar berfformiad ac arfer busnes.

Polisi ac ymarfer sefydliadol mewn lleoliadau chwaraeon

Dulliau ymchwil gwerthuso arloesol yn arwain at newidiadau mewn polisi ac ymarfer sefydliadol.

Patrymau Rheoli Gweithrediadau Cyfoes (COMPS)

Cymhwyso COMPS mewn lleoliadau busnes a’i effaith gadarnhaol ar berfformiad ac effeithlonrwydd.