Effeithiodd ymchwil rheoli sector cyhoeddus a chynllunio strategol yn sylweddol ar bolisi chwaraeon Llywodraeth Cymru. Arweiniodd gwerthusiadau’r Fenter Nofio am Ddim a’r Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol at gynlluniau diwygiedig, dargyfeirio arian i’r Gronfa Iach ac Egnïol
gwerth £5.4 miliwn, a datblygiadau yn Strategaeth Genedlaethol
Pwysau Iach, Cymru Iach. Roedd y gwerthusiad Galwadau am Weithredu yn defnyddio Theori Newid am y tro cyntaf mewn rhaglenni o’r fath – gan ddylanwadu ar ddatblygu ac asesu rhaglenni yn y dyfodol megis y Cynllun Hamdden Actif 60+ a’r Gronfa Gwydnwch Chwaraeon.