Ymchwil>Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021>Astudiaeth Achos Effaith - Uwchsgilio Athrawon ar gyfer CfW

Uwchsgilio athrawon i drawsnewid y “Cwricwlwm i Gymru” (CfW) newydd yn sylfaenol ym mhob ysgol wladol

Yr Athro David Egan, Yr Athro Gareth Loudon, Dr Bethan Gordon, Dr David Aldous, Dr Anna Bryant, Dr Jennie Clement, Dr Lowri Edwards a Gemma Mitchell


Yn 2022, bydd Cymru’n gweithredu cwricwlwm newydd ym mhob ysgol, gan effeithio ar 468,383 o ddisgyblion a chaniatáu i 22,000 o athrawon ddylunio eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol. Roedd ymchwil Met Caerdydd yn sail i uwchsgilio athrawon mewn 33 o ysgolion i fod yn ymholwyr newid creadigol a thrwy hynny effeithio ar arfer proffesiynol 1,045 o staff a phrofiad dysgu ~ 14,900 o ddisgyblion. Arweiniodd ei lwyddiant at dros 300 o ysgolion ychwanegol yn dechrau ar y rhaglen i hwyluso’r cwricwlwm newydd.


“Roedd gwaith disgyblion hefyd yn gwella o ran ansawdd, gyda’r gwaith cyn i’r ymyriad gael ei groes-gymedroli gyda’m Pennaeth Adran fel lefel 4, a’r gwaith ar ôl yr ymyriad fel lefel 5-6. Mae’r gwaith yndangos bod ganddynt well dealltwriaeth o bob un o’r termau drwy ddefnyddio tôn ar yr wyneb, ansawdd eu cyflwyniad o’i gymharu â gwaith blaenorol, a cychwanegu manylion.”

Dyfyniad o Undertaking Professional Enquiry: An Introduction for Lead Enquirers


Lawrlwythwch Astudiaeth Achos Effaith y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil