Skip to main content
Cardiff Partnership for ITE
       
 

ASTUDIO TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn darparu llawer o gyfleoedd amrywiol ac unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir y darlithoedd gan ein staff brwdfrydig sy’n brofiadol iawn yn eu meysydd arbenigol. Gyda’n cyrsiau hyblyg ac amrywiol mae’n bosibl dilyn eich cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Mae Met Caerdydd yn awyddus i helpu a chefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith mewn awyrgylch gefnogol a chynhwysol.

PAM ASTUDIO AGA DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG YM MHRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD?

Bydd y Gymraeg yn cael lle amlwg iawn yn y cwricwlwm newydd sydd i ddechrau mewn ysgolion Cymraeg a hefyd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gyda chymhwyster AGA o Brifysgol Met Caerdydd bydd yn bosibl ymgeisio am swyddi yn y ddau sector, felly cyfle gwych ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn enwedig gyda thwf ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae’r gymuned AGA Cymreig ym Met Caerdydd yn agos ac rydym yn falch o’r gefnogaeth a roddwn i’n myfyrwyr. Mae ein grwpiau addysgu yn fach ac oherwydd hyn mae cefnoageth ar gael yn academaidd ac o ran lles myfyrwyr.

Yn Met Caerdydd rydym yn croesawu myfyrwyr sydd â chefndir iaith amrywiol. Rhoddir 25 awr i bob myfyriwr gefnogi a mireinio eu sgiliau iaith er mwyn magu hyder.

Yn ogystal, mae ein grŵp Pontio yn gynllun newydd sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n llai hyderus y neu Cymraeg ond sydd am gryfhau’r iaith a’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

ATHRAWON CYFRWNG CYMRAEG YFORY

Ydych chi’n chwilio am yrfa fel athro uwchradd neu cynradd? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dewch draw i’n noson recriwtio i ddysgu mwy am yrfa fel athro. Cyfle i chi glywed gan athrawon a darlithwyr am y proffesiwn addysg. Bydd panel cwestiwn ac ateb, a chyfle i holi myfyrwyr, athrawon, a thiwtoriaid Met Caerdydd.

19 Mawrth 2024, 6yh-7.30yh: Mwy o wybodaeth
Archebwch eich lle

CYRSIAU AGA SYDD AR GAEL



TAR
CYNRADD

TAR
UWCHRADD

BA ADDYSG GYNRADD
(GYDA SAC)

​CWRS BYR BLAS AR DDYSGU

Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn chwilio am yrfa mewn addysgu Cynradd neu Uwchradd, dysgwch ragor am ein cwrs byr lle gallwch brofi amgylchedd ysgol ac archwilio gyrfa yn addysgu yn ysgolion Cymru.

​Cwrs byr Blas ar Ddysgu: 3-7 Mehefin 2024​. Mwy o wybodaeth


CWRDD Â'R TÎM: DARPARIAETH GYMRAEG ADDYSG GYCHWYNNOL I ATHRAWON



 
Sioned Dafydd

Dewch i gwrdd â Sioned Dafydd, darlithydd mewn TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

 
Gina Morgan

Dewch i gwrdd â Gina Morgan, darlithydd TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

 
Bethan Rowlands

Dewch i gwrdd â Bethan Rowlands, darlithydd mewn TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION



From factory worker to Secondary PGCE. Becoming an English teacher at Cardiff Met
Fy nhaith mewn i addysgu. Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Cynradd eleni.

“Dewisais Brifysgol Met Caerdydd oherwydd ei fod yn caniatáu i mi barhau â’m haddysg trwy gyfrwng Cymraeg. Gyda’r meintiau grwpiau llai, llwyddais i ddatblygu perthynas agos gyda fy mentoriaid prifysgol ac roedd y profiad yn un cadarnhaol.”

Aled James - TAR Cynradd

Darllen y blog

Studying my Secondary PGCE and creating a home schooling project during lockdown.
Astudio Addysg Gynradd gyda SAC drwy gyfrwng y Gymraeg: Fy mhrofiad mor belled ar y cwrs

“O’r dechrau, rydw i wedi bod yn awyddus i gwblhau fy lleoliad mewn Ysgol Gymraeg. Mae’r gymuned Gymreig, er ei bod yn ehangu, yn fach ac mae hyn yn rhoi awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar. O fy mhrofiad i mae athrawon yn awyddus i gefnogi a chynghori mewn unrhyw ffordd bosibl.”

Taome Paige - BA Addysg Gynradd gyda SAC

Darllen y blog

Fy mhrofiad blwyddyn gyntaf ar y cwrs Addysg Gynradd gyda SAC
Fy mhrofiad blwyddyn gyntaf ar y cwrs Addysg Gynradd gyda SAC

“OMae astudio drwy’r Gymraeg yn beth gwych, a dwi wrth fy modd yn cael y wybodaeth i gyd yn ddwyieithog. Un o’r pethau gorau yw’r perthnasau agos sydd yn cael ei ffurfio gyda’r tiwtoriaid a hefyd gyda myfyrwyr eraill.”

Bo Leung- Addysg Gynradd gyda SAC

Darllen y blog

Blog
Fy nhaith mewn i addysgu. Pam penderfynu newid gyrfa ac astudio’r cwrs TAR Cynradd.

“Un fantais o wneud y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r cymorth a’r ddeialog gyson a gewch â thiwtoriaid personol y brifysgol, megis Sioned Dafydd a Kris Sobol, yn ogystal â sesiynau Gloywi Iaith reolaidd i gyfoethogi a datblygu myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth.”

Gruffydd Evans - TAR Cynradd

Darllen y blog

Blog.
Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Uwchradd yn Gymraeg ac ysbrydoli yn y dosbarth gyda Dylunio a Thechnoleg

“Fe wnes i basio fy TAR Uwchradd mewn Dylunio a Thechnoleg yn swyddogol trwy gyfrwng y Gymraeg ac ni allwn fod yn fwy balch ohonof fy hun. Mae hyn yn gyflawniad enfawr i mi a dwi mor falch i fod yr unig athro Dylunio a Thechnoleg sy’n siarad Cymraeg i ddod allan o Brifysgolion De Cymru eleni.”

Naomi Hughes - TAR Uwchradd (Dylunio a Thechnoleg)

Darllen y blog

Fy swydd ddelfrydol yn gweithio fel Athrawes Cymraeg  Addysg Gorfforol
Fy nhaith mewn i Addysgu- Fy mhrofiad yn astudio ar y cwrs TAR Uwchradd Hanes

“Y prif reswm pam nes i benderfynnu dewis Met Caerdydd oedd y siawns i allu parhau fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd byw ym mhrif ddinas Cymru. Roeddwn i’n sicr fy mod am wneud y cwrs TAR trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd gwnes i ran fwyaf o fy addysg yn y Gymraeg.”

Siôn Davies - TAR Uwchradd (Hanes)

Darllen y blog