Nod y cwrs ydy paratoi darpar athrawon ar gyfer bod yn ymarferwyr medrus, hyderus, adfyfyriol gritigol a blaengar sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.
Bydd graddedigion yn datblygu'r gwerthoedd a'r ymagweddau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i ddelio â galwadau'r ystafell ddosbarth.
Mae Met Caerdydd wedi mynd trwy broses ail-achredu yn llwyddiannus gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae Met Caerdydd wedi’i hachredu i ddarparu cyrsiau BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC, TAR Cynradd a TAR Uwchradd AGA fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer mynediad mis Medi 2024 ac am y pum mlynedd nesaf.
Nodweddion Arbennig y Radd
- Profiad prifysgol ac ysgol sy'n hyfforddi darpar athrawon i addysgu Cwricwlwm Cymru ar draws yr ystod oed 3-11
- Ymarfer clinigol yn seiliedig ar ymchwil lle bydd cyfleoedd strwythuredig yn galluogi
- Hinsawdd dysgu cefnogol a chydweithrediadol
- Dyddiau hyfforddi mewn ysgol dan arweiniad ysgolion a nodwyd eu bod yn ddarparwyr blaengar o addysg a datblygiad proffesiynol
- Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob darpar athro yn seiliedig ar eu profiad a’u hanghenion personol
Partneriaeth Caerdydd ar Gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn
Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, darparwyr achrededig Cyngor Gweithlu Addysg o AGA yn Ne Ddwyrain Cymru.
Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), a Chyngor Dinas Caerdydd.
Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC drwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn ddeallusol heriol.
Darganfod mwy am
Bartneriaeth Caerdydd.
Datblygu'r Gymraeg
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn derbyn 105 awr o ddatblygu sgiliau Cymraeg dros eu tair blynedd o astudio.
Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn derbyn sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i'r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff darpar athrawon hyfforddiant ar ddulliau o ddatblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a dealltwriaeth o gefndi-roedd ieithyddol-gymdeithasol y dysgwyr.
Yn ystod y rhaglen, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu portffolio o dystiolaeth i gofnodi eu cynnydd mewn siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu ac addysgeg datblygu Cymraeg. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd pob athro dan hyfforddiant yn hunanasesu yn erbyn fframwaith cymhwysedd y Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg a chyflwynir sampl o dystiolaeth portffolio i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae modd astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r manylion fel a ganlyn:
- Gallwch ymgymryd ag o leiaf 66% o'r holl ddarpariaeth dan arweiniad SAU drwy gyfrwng y Gymraeg (sy'n cyfateb i isafswm o 80 credyd fesul blwyddyn academaidd)
- Gellir cyflwyno pob aseiniad a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Gall holl leoliadau ysgol fod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Neilltuir tiwtor personol Cymraeg ei h/iaith ar eich cyfer
Am ragor o wybodaeth am opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â Bethan Rowlands at
browlands2@cardiffmet.ac.uk
Cynnwys y Cwrs
Mae'r radd BA (Anrh) Addysg Gynradd (3-11 oed) gyda SAC yn fodiwlaidd mewn strwythur, gyda modiwlau yn amrywio o 20 i 40 credyd. Lle mae modiwlau yn fwy nag 20 credyd, fe'u dyluniwyd felly er mwyn dal a rhoi sylw priodol i'r rhyngberthynas a'r ystod o feysydd cwricwlaidd o fewn Cwricwlwm Cymru. Gellir cyflwyno pob modiwl, yn rhannol o leiaf, trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
Cynhelir cyfanswm o 120 diwrnod yn yr ysgol gydag o leiaf un lleoliad ysgol mewn Ysgol Partner Arweiniol/Cynghrair (LPS/A). Mae Ymarfer Clinigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu rhoi mewn o leiaf dau gam dilyniant gwahanol ar draws eu tri lleoliad ysgol.
Blwyddyn Un:
Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn archwilio gwahanol ddiffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth ystyried effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Dyfodol Llwyddiannus (I) (40 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn archwilio gwybodaeth berthnasol am gynnwys pwnc a gwybodaeth cynnwys addysgegol mewn perthynas ag addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg; iechyd a lles; a'r celfyddydau mynegiannol, yn benodol celf, cerddoriaeth, drama, a dawns. Bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o ddylunio a chyflwyno'r cwricwlwm i ysgogi a herio pob dysgwr yn rhan annatod o'r modiwl hwn.
Ystyried Chwarae a Dysgu Cynnar (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn archwilio materion hanfodol sy'n ymwneud â chwarae, a gwerth a phwysigrwydd chwarae mewn dysgu a datblygiad cyfannol plant. Mae rhywfaint o addysgu’r modiwl hwn fel arfer yn digwydd yn Nhŷ Froebel Met Caerdydd – gofod integredig dan do ac awyr agored i athrawon dan hyfforddiant wella eu dealltwriaeth o chwarae cynnar, datblygiad plant a dysgu yn yr awyr agored.
Cyflwyniad i Ddatblygu Plant, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Clinigol (40 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn archwilio datblygiad plant gan gynnwys gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol, datblygiad iaith ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n cynnwys 15 diwrnod Ymarfer Clinigol mewn ysgolion lle ystyrir cyfleoedd i gefnogi ac ymestyn datblygiad plant cyfannol yn seiliedig ar ganfyddiadau arsylwadol.
Blwyddyn Dau:
Gwrth-hiliaeth, Ecwiti ac Amrywiaeth: Addysgeg ac Ymarfer i Gymru (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi'n feirniadol y gwerthoedd a'r agweddau sy'n sail i amrywiaeth ddiwylliannol a bydd yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn myfyrdod dwfn ynghylch ymchwil, diwygio ac ymarfer cyfredol sy'n gysylltiedig â gwrth-hiliaeth, tegwch ac amrywiaeth. Bydd y modiwl hwn hefyd yn galluogi ac yn cefnogi myfyrwyr i ddadansoddi a deall cwricwla ac addysgeg sy'n adlewyrchu hanesion a chyfraniadau lluosog ac amrywiol grwpiau ac unigolion ethnig Mwyafrif y Byd.
Dyfodol Llwyddiannus (II) (40 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cadarnhau ac ymestyn gwybodaeth am bwnc a chynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd hefyd yn ystyried gwybodaeth berthnasol am bwnc a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu'r dyniaethau. Felly, bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o asesu, gwahaniaethu a diwallu anghenion disgyblion yn rhan annatod o'r modiwl hwn.
Ymchwilio i Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn paratoi darpar athrawon ar gyfer cwblhau astudiaeth annibynnol ym mlwyddyn tri. Bydd y datblygu critigoldeb mewn darllen ac ymchwil gyda'r ffocws ar ddefnyddio ymchwil i ddylanwadu ar unrhyw ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ymarfer Clinigol 1 (40 credyd)
Mae'r modiwl hwn wedi'i leoli mewn ysgolion lle bydd gan athrawon dan hyfforddiant gyfle i bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer ac i gymhwyso eu sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn dangos sgiliau a hyder sy'n dod i'r amlwg wrth arsylwi, cynllunio, addysgu ac asesu o fewn o leiaf un cyfnod oedran ac yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gwrdd â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â SAC.
Blwyddyn Tri:
Dulliau Byd-Eang a Blaengar o Fynd ati i Ystyried Addysg (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cipolwg ar systemau, damcaniaethau a chysyniadau addysgol yn lleol ac ar draws y byd. Bydd yn ystyried gwahanol athroniaethau a diwylliannau o fewn systemau addysgol lleol a rhyngwladol, lleoliadau ac amgylcheddau addysgu.
Ymarfer Proffesiynol a Llesiant (20 credyd)
Gyda'r ffocws ar ddatblygu llesiant ar gyfer darpar yrfa ym maes addysgu, mae'r modiwl hwn yn ystyried y galwadau proffesiynol cyfredol sydd ar ymarferwyr ysgolion cynradd heddiw ac yn ystyried sut gallai athrawon beri newid ac ymateb i'r sefyllfaoedd a'r amgylcheddau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw.
Prosiect Annibynnol (40 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i gwblhau ymchwil annibynnol neu brosiect sy'n seiliedig ar ymholiad i wella eu Practis Clinigol. Bydd ymchwil yn digwydd ochr yn ochr ag ac o fewn Ymarfer Clinigol athrawon dan hyfforddiant fel ei fod yn gysylltiedig ag ymarfer, myfyrdodau a datblygiad parhaus myfyriwr.
Ymarfer Clinigol 2 (40 credyd)
Mae'r modiwl hwn wedi'i leoli mewn ysgolion lle bydd gan athrawon dan hyfforddiant gyfle i bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer a chymhwyso eu sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Erbyn y diwedd, disgwylir y dylai athrawon dan hyfforddiant fodloni neu ragori ar y lefel sy'n ymwneud â dyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Dysgu ac Addysgu
Lluniwyd addysgu yn y brifysgol a'r addysgu yn seiliedig yn yr ysgol a chyfleoedd dysgu i ategu ei gilydd er mwyn hybu cynnydd myfyrwyr i'r eithaf. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio a hyrwyddo sgiliau datblygiad critigol darpar athrawon, a chydlynu wrth integreiddio ymchwil ac ymchwiliad, ymarfer a theori. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgolion, fel ei gilydd, bydd darpar athrawon fel arfer yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid a dulliau hunan-gyfeiriedig o ddysgu, gan ddatblygu annibyniaeth a'r gallu i adfyfyrio wrth iddyn nhw symud drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd cyson drwy gydol y cwrs i ddarpar athrawon adolygu eu cynnydd personol gyda'u tiwtoriaid ac ysgwyddo cyfrifoldeb ar gyfer cynllunio a rhoi eu dysg eu hunain ar waith.
Gallai'r dulliau addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau yn y brifysgol, ar y campws ac ar-lein, gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, a'r cyfan yn cael cymorth rhith amgylchedd dysgu Met Caerdydd. Mewn nifer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir fydd y rhai â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o'r effaith ar ddysgu'r darpar athro a chyflawniad disgyblion e.e. meicroaddysgu, ymarfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunan-reolaeth, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrth-dro.
Dysgu ac addysgu yn seiliedig ar ysgol
Yn y flwyddyn gyntaf, mae Ymarfer Clinigol wedi'i gynnwys mewn modiwl academaidd, a bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant gymryd rhan mewn addysgu tîm ac addysgu annibynnol, yn ogystal â rhywfaint o gynllunio cydweithredol ac annibynnol ar hyn o bryd. Mae hyn er mwyn sicrhau model cynyddrannol o ddatblygiad personol a phroffesiynol, ac ni fydd asesiad ffurfiol yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â SAC yn dechrau tan Flwyddyn Dau y rhaglen. Disgwylir i athrawon dan hyfforddiant ddangos eu bod yn cynnal y gwerthoedd a'r gwarediadau sydd eu hangen ar athrawon o'r pwynt cynnar hwn yn y rhaglen.
Yn ystod blwyddyn dau a thri, caiff darpar athrawon gymorth dulliau addysgu mewn tîm yn ogystal ag addysgu'n annibynnol a bydd disgwyl iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu dosbarth neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod par-haus neu sylweddol. Bydd o leiaf un lleoliad ysgol mewn Ysgol/Cynghrair Partner Arweiniol (LPS/A). Bydd Ymarfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol ac addysgu mewn tîm; a chynllunio, paratoi ac asesu.
Hefyd, bydd darpar athrawon yn cael pymtheg o ddyddiau hyfforddi dan ar-weiniad Ysgolion Arweiniol Partneriaeth/Cynghreiriau. Yn ystod y dyddiau hyfforddi hyn, defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog adfyfyriol wedi'i chymell gan fideo, teithi-au cerdded addysgol; sgyrsiau gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau'r ysgol.
Er y gwneir pob ymdrech i ystyried amgylchiadau personol myfyriwr, byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn ofynnol i athrawon dan hyfforddiant deithio hyd at uchafswm o 90 munud o'u man preswylio i leoliad ysgol.
Noder: Mae hon yn radd Addysg Gychwynnol i Athrawon broffesiynol ac ni ddylai ymgeiswyr BA gyda SAC llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Ar gyfer pob un o'r tair lefel astudio (Blynyddoedd 1-3), mae'r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod trydedd wythnos mis Medi ac yn dod i ben tua diwedd mis Mehefin.
Asesu
Mae'r cwrs yn cynnwys ystod o ddulliau asesu, ymyrraeth gan ddysgwyr yn seiliedig ar ymarfer, gwefan, ffeithlun, portffolio, cyflwyniad, pecyn gwybodaeth sy'n seiliedig ar ymarfer, cynnig ymchwil, traethodau traddodiadol, a phrosiect ymchwil annibynnol. Mae llawer o asesiadau'n ymarferol eu natur, gan gefnogi datblygiad myfyrwyr a chynnydd yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â SAC. Mae'r pwyntiau cyflwyno ar gyfer pob asesiad wedi'u gwasgaru drwy gydol y flwyddyn i reoli llwythi gwaith athrawon dan hyfforddiant a, lle bo'n briodol, cefnogi adborth ffurfiannol.
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â SAC a rhaid iddynt basio'r holl Safonau i ennill Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod Ymarfer Clinigol (lleoliad ysgol), bydd athrawon dan hyfforddiant yn derbyn adborth ffurfiannol llafar ac ysgrifenedig parhaus yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o'r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth i ddangos eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad a bydd hyn ar gael i Diwtoriaid Personol / Tiwtoriaid Prifysgol / Arweinwyr Modiwlau / Cydlynwyr Blwyddyn fel y gallant fonitro cynnydd yn rheolaidd.
O ystyried pa mor ganolog yw llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol o fewn y Cwricwlwm i Gymru, bydd pob athro dan hyfforddiant yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol drwy gydol y rhaglen. Yn bennaf, bydd hyn er mwyn helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu a chymryd rhan mewn astudiaeth i lenwi'r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd athrawon dan hyfforddiant a allai elwa o gymorth pellach yn derbyn cymorth ychwanegol yn ôl yr angen.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
O gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, argymhellir i'r Cyngor Gweithlu Addysg bod y darpar athro wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a hynny yn cynnig y cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd ym maes addysg gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ar draws Cymru, y DU a thramor.
Lluniwyd y cwrs i gynnig ystod o eang o brofiadau a fydd yn rhoi wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Partneriaeth Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu henwi fel darparwyr blaengar addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly, mae'r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac o fewn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai'r dilyniant o fod yn ddarpar athro i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.
Am ragor o wybodaeth ewch i
wefan Darganfod Addysgu Cymru.
Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i'n dechrau ar fy ngwaith addysgu?
Ceir y wybodaeth ar
wefan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion:
Astudiaeth Bellach
Mae rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC yn sylfaen ragorol ar gyfer astudiaeth bellach naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser ar gyfer cymhwyster
MA/PgD/PgC Gradd Meistr mewn Addysg (gyda llwybrau) ym Met Caerdydd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna asesir yr holl geisiadau yn erbyn meini prawf mynediad y rhaglen berthnasol ac yna eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon. Gwnewch gais gan ddefnyddio'r codau UCAS canlynol:
Astudio trwy gyfrwng y Saesneg
Primary Education (3-11 age range) with QTS – BA (Hons):
X120
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gynradd (3-11 ystod oedran) gyda SAC – BA (Anrh):
X121
Dylai pob ymgeisydd:
- Feddu'r ddawn, y gallu a'r gwytnwch i gwrdd â deilliannau gofynnol SAC erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
- Meddu ar y priodweddau personol a deallus i fod yn ymarferwyr rhagorol;
- Darllen yn effeithiol ac yn gallu cyfathrebu'n glir a chywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a /neu yn Gymraeg;
- Heb fod wedi cyflawni troseddau a allai eu rhwystro rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed neu fel ymarferydd addysgol; a heb fod wedi cael eu gwahardd rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i ddarpar athrawon drefnu am Ddatgeliad Pellach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));
- Arddangos yn ystod cyfweliad bod ganddyn nhw sgiliau gweithredol personol perth-nasol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol yng nghyd-destun dysgu ac addysgu proffesiynol;
- Arddangos eu haddasrwydd i ddatblygu'n athrawon;
- Cwrdd â gofynion
Safonau Iechyd Addysg Llywodraeth Cymru (2004)*, yn cadarnhau eu hiechyd a'u gallu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.
Yn ogystal â'r gofynion uchod, dylai fod gan ymgeiswyr broffil academaidd cadarn, gan gynnwys:
Pump TGAU gan gynnwys:
- TGAU Gradd C/Gradd 4 neu uwch mewn Saesneg Iaith NEU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf).
- TGAU Mathemateg Gradd C/Gradd 4. Ar gyfer ymgeisiwyr o Gymru, byddwn yn derbyn TGAU Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd.
- TGAU Gwyddoniaeth (neu safon gyfwerth) ar Radd C/Gradd 4.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg feddu ar TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf). Gellir ystyried Cymraeg Ail Iaith os caiff ei hastudio ar lefel uwch e.e. Lefel A.
Dylai fod gan ymgeiswyr hefyd un o’r canlynol (neu gyfwerth):
- 115 pwynt i’w cynnwys BCC; Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Uwch Sgiliau a ystyrir yn drydydd pwnc
- RQF BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol /Diploma Estynedig Technegol DMM
- Teilyngdod ar Lefel T gyda C yn y Gydran Graidd
- 115 o bwyntiau o 'Irish Leavers Certificate' ar lefel 'Highers' i gynnwys 3 x H2 gradd. Dim ond gydag isafswm gradd H4 caiff pynciau lefel 'Higher' eu hystyried
- 115 o bwyntiau o ddau 'Scottish Advanced Highers' i gynnwys graddau CDD
- 115 o bwyntiau o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
- Ystyrir Diploma NCFE CACHE os yw'n gyfwerth ag o leiaf 2 lefel A. Bydd y cynnig yn ddibynnol ar y wir Ddiploma CACHE a astudiwyd
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad ydy'ch cymhwyster wedi'i restru, naill ai cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau neu fynd i
UCAS Course Search i gael y gofynion mynediad. Gellir cael gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE drwy glicio
yma.
Os ydych yn fyfyriwr hŷn ac yn meddu ar gymwysterau neu brofiad amgen yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch ag aelod o'r staff.
Yn anffodus, ni allwn ystyried ceisiadau gohiriedig ar gyfer y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad Ychwanegol
Cyfwerthoedd TGAU:
Mae Met Caerdydd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU o gwrs achrededig trwy sefydliad ag enw da. Cliciwch yma i weld canllawiau Met Caerdydd ar gyfwerthoedd gradd C.
Rydym yn derbyn cymhwysterau cywerthedd gan Brifysgol De Cymru ac o Brifysgol Aberystwyth, rydym hefyd yn derbyn y modiwl cyfwerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a'r modiwl cywerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).
Am ragor o gyngor ynglyn ar hyn a dderbynnir, cysylltwch â derbyniadau derbyniadau@cardiffmet.ac.uk.
Profiad Gwaith:
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr ystod oed cynradd ond rydyn ni'n deall na fydd hyn efallai yn bosibl oherwydd y sefyllfa gyfredol sydd ohoni. Gofynnwn i ymgeiswyr gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddyn nhw drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.
Datganiad Personol:
Datganiad personol cryf yn nodi potensial yr ymgeisydd i ymgymryd â Rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC. Dylai'r datganiad ddangos ehangder gwybodaeth a phrofiad bersonol a gafwyd ym maes addysg gynradd hyd yn hyn a photensial hyn i wneud yr ymgeisydd yn athro cynradd/athrawes gynradd effeithiol. Yn y datganiad personol, dylid hefyd gyfeirio at brofiadau personol/diddordebau allgyrsiol a allai gyfrannu at gyfoethogi at ddysg plant. Mae Saesneg/Cymraeg ysgrifenedig uchel ei safon yn hanfodol.
Geirda Academaidd:
Dylai'r geirda ddod o leoliad addysg mwyaf diweddar yr ymgeisydd, gan y rhai sydd orau i gynnig sylwadau ar alluoedd academaidd a galwedigaethol yr ymgeisydd. Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny y mae eu geirda dros bum mlynedd oed, mae angen geirda gan weithiwr proffesiynol byd addysg mwy diweddar megis prifathro ysgol. Mae'n bwysig bod y canolwr hwn yn gallu cynnig barn wrthrychol a deallus ar sail gwybodaeth arwyddocaol am yr ymgeisydd yng nghyd-destun addysgol. Cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich geirda.
Cofnodion Troseddol/Gwiriadau'r Gwasanaeth Gwahardd a Datgelu:
Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad troseddol boddhaol. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol
yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr heb Saesneg fel mamiaith gynnig tystiolaeth o ruglder i isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb unrhyw is-sgôr yn is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth). Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am gymwysterau Saesneg, ewch i'r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan hon.
Myfyrwyr Hŷn
Ystyrir unrhywun sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol neu i goleg ar ôl gadael yr ysgol yn fyfyriwr hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a cheir cyngor a gwybodaeth bellach
yma.
Gwybodaeth ar Gyfer Mynychu Cyfweliad
Ar hyn o bryd, cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy MS Teams. Hysbysir chi am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Byddwch wedyn yn derbyn gwahoddiad MS Teams gydag amser penodol eich cyfweliad, oddi wrth tîm y rhaglen. Bydd cyfweliadau yn para tua 30 munud.
Mae gofyn i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol a hysbysu'r Adran Dderbyniadau cyn gynted â phosibl a fydden nhw'n dymuno cynnal eu cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltu â Ni