Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Waste Management

Rheoli Gwastraff

Rheoli Gwastraff yn cymryd rhan yn wythnos Ewch yn Wyrdd, gêm Ailgylchu a Choeden Adduned Gwastraff

​​

Rheoli Gwastraff  yn cymryd rhan yn wythnos Ewch yn Wyrdd, gêm Ailgylchu a Choeden Adduned Gwastraff

Mae'r Brifysgol yn gweithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o'r holl wastraff erbyn 2025 a dim gwastraff erbyn 2050.

Mae'r ffrydiau gwastraff a reolir yn cynnwys olewau, gwastraff cemegol, clinigol a glanweithiol, gwastraff cyfrinachol a thiwbiau Fflwroleuol.

Caiff sgrap ei gasglu trwy drefniant gyda chontractwr arbenigol.
Mae'r ffrydiau ailgylchu yn cynnwys papur, cardbord, plastig, cetris arlliw / inc, gwydr, caniau, pren, sgrap, cyfarpar trydanol, batris, stampiau a dillad. 

Mae eitemau dros ben y gellir eu hailddefnyddio, fel dodrefn, dillad, argraffwyr, cyfrifiaduron personol a llyfrau yn cael eu hysbysebu'n fewnol yn gyntaf ac yna'n allanol i ysgolion a sefydliadau lleol.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus fel safle peilot yng Nghaerdydd ar gyfer ailgylchu cwpanau coffi ar y Campws.

Gwaredu llyfrau llyfrgell - dim tirlenwi - rhoddir pob llyfr i Better World Books i'w hail-werthu neu eu hanfon ymlaen i wledydd y 3ydd byd. Yn dilyn llwyddiant y Cyfnewid Llyfrau yn ystod Wythnos Ewch yn Wyrdd 2017 - mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn darparu cwpwrdd llyfrau ar gyfer cyfnewid pob llyfr.

Rydym yn parhau i gyfleu'r neges trwy gymryd rhan yn Ffair y Glas ac Wythnos Ewch yn Wyrdd gyda Llety Caerdydd, yn hyrwyddo ailgylchu a rhoi cyhoeddusrwydd i'r cyfleusterau ar y safle. Defnyddir dulliau eraill hefyd o hysbysebu a chyhoeddusrwydd mewnol i sicrhau bod holl ddefnyddwyr y Brifysgol yn cael eu cyflwyno i'r Polisi Cynaliadwy ac yn llwyr ymwybodol o'n targedau a'n cyfleusterau ailgylchu. 

Mae staff a myfyrwyr wedi ymweld â'r Ganolfan Trident ym Mae Caerdydd.

Caiff y cynnydd ar amcanion y strategaeth Rheoli Gwastraff eu hadrodd yn dymhorol i'r Grŵp Perfformiad Amgylcheddol ac yn yr Adroddiad Blynyddol.