Oeddech chi'n gwybod bod nifer y draenogod wedi gostwng o leiaf 30% ers 2000? Mae Met Caerdydd wedi ymuno â'r ymgyrch genedlaethol i wneud prifysgolion yn Ddraenog-Gyfeillgar!
Ym mis Chwefror 2020 fe wnaethon ni ymuno â chynllun Campws Draenog-Gyfeillgar a chytuno i anelu at wneud ein campysau yn Ddraenog-Gyfeillgar. Dyfarnwyd y wobr Efydd i ni gan fenter Campws Draenog-Gyfeillgar yn Ionawr 2021. Ers hynny mae Gweithgor Draenogod gennym ni sy'n gweithio tuag at y wobr Arian.
Dechreuon ni trwy hyrwyddo'r ymgyrch yn wythnos Bydd Werdd a gwelsom lawer o frwdfrydedd gan ein staff a'n myfyrwyr dros yr ymgyrch yn ogystal â phryder ar ddysgu bod nifer y draenogod yn gostwng.
Codi Sbwriel
Cynhaliwyd sesiynau codi sbwriel rheolaidd fel rhan o'r Ymgyrch Draenog-Gyfeillgar ac fel Hwb Cadw'ch Cymru'n Daclus. Casglodd nifer anhygoel o 18 aelod o staff a myfyrwyr 18 bag o sbwriel o'r ardal leol ar ôl y llifogydd diweddar. Mae sbwriel yn beryglus iawn i ddraenogod oherwydd gallant gael eu dal ynddo, felly mae'n bwysig i ni fod ein campysau a'n hardal leol yn cadw'n daclus.
Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod 2021, ein nod oedd codi ymwybyddiaeth o'r peryglon y mae draenogod yn eu hwynebu a hyrwyddo ffyrdd y gall staff, myfyrwyr a'r gymuned gynorthwyo eu draenogod lleol ar ein cyfryngau cymdeithasol. Hefyd fe ysgrifennodd aelod o staff Met Caerdydd sy'n gwirfoddoli i achub draenogod erthygl fer ar ei waith gwirfoddoli ar gyfer ein porth staff, Insite.
Fel rhan o'n dathliadau, cynhaliodd Jo o ‘Hedgehog Friendly Campus’ weithdy ar-lein byw, gan ddysgu technegau gwylio syml i rai o'n staff a'u teuluoedd i wylio draenogod yn eu gerddi. Roedd yn ddigwyddiad gwych a chafodd rhai o'n haelodau staff lwcus iawn ddraenogod yn ymweld â'u twneli gwylio yn ystod yr wythnos ganlynol, profwyd hyn gan ymddangosiad rhai olion traed draenogod yn yr inc!