Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Travel and Transport

Teithio a Thrafnidiaeth

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Hyrwyddo teithio amgen yn ystod Wythnos Ewch yn Wyrdd

​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi teithio cynaliadwy, er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff, a chwarae ein rhan fel aelod cyfrifol o'r gymuned leol.

Mae ein Cynllun Teithio yn darparu fframwaith cynhwysfawr i adolygu a gwella arferion teithio'r Brifysgol yn barhaus, ac mae'n elfen hanfodol o werthoedd corfforaethol y Brifysgol.

Hyrwyddo cerdded/rhedeg i'r Campws fel ffordd o fyw ddewisol ymhlith myfyrwyr a staff. Gyda mentrau fel darparu cyfleusterau cawod, newid a storio, canllawiau cerdded campws diogel, prynu lleoedd ym Marathon Caerdydd ar gyfer 90 o staff, cyflwyno clybiau cerdded a rhedeg, pecynnau brecwast Cerdded i'r Gwaith am bedair wythnos y flwyddyn. Mae gennym dri cherbyd trydan ar y Campws ac rydym yn gobeithio cynyddu hyn drwy adolygu’r ceir cronfa ar brydles.

Mentrau beicio, ar gyfer y Grŵp Defnyddwyr Beiciau yn y gweithle mwyaf yng Nghymru, gyda mwy na 320 aelod o staff yn seiclo yn rheolaidd i'r gwaith a thros 800 o fyfyrwyr yn gofyn i ni ychwanegu mynediad i'r mannau storio beiciau at eu cerdyn adnabod, uwchraddio a chwblhau'r Hwb Seiclo, llochesau beiciau newydd, gwerthu cloeon diogel am draean o’r pris manwerthu argymelledig, a manteisiodd 29 o weithiwr academaidd a 28 aelod o staff cymorth ar gynllun prynu Seiclo i'r Gwaith ym mis Ebrill 2015  - cyfanswm o 57 o feiciau staff newydd.

Mae amserlen Met Rider a chyfarwyddiadau i'r Campws wedi'u cynnwys ar Ap Met Caerdydd, ynghyd â mentrau hyrwyddo teithio trwy gyfrifon Facebook a Twitter y Brifysgol.
Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein Dyfarniad Teithio Platinwm.

Mae Diwrnodau Cymunedol gyda'r Farchnad Ffermwyr wedi bod yn gyfle gwych i ddarparu MOT beic am ddim ar y Campws bob mis i staff a myfyrwyr.

Medi 2018 - cyflwyno Nextbike ar y Campws - gan hybu staff a myfyrwyr i gofrestru.​