Dogfennau Allweddol a Chofnodion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys y dogfennau allweddol sy'n rheoleiddio'r Brifysgol. Mae hyn hefyd yn cynnwys y cylch gorchwyl sy'n llywodraethu Pwyllgorau Bwrdd y Llywodraethwyr a'u hadroddiadau blynyddol, yn ogystal â chofnodion cyfarfodydd Bwrdd y Llywodraethwyr.
Cynllun Dirprwyo
Mae'r
Cynllun Dirprwyo hwn yn cofnodi pwy sydd ag awdurdod o fewn Prifysgol Metropolitan Caerdydd am benderfyniadau a wneir yn enw'r Brifysgol neu ar ei rhan. Mae'n rhan o'r ddogfennaeth lywodraethu sy'n esbonio sut mae'r Brifysgol yn gweithredu a phwerau'r amrywiol grwpiau sy'n gwneud penderfyniadau.
Bwrdd Llywodraethwyr
Dogfennau Llywodraethol
Erthyglau Llywodraethu ac
Offerynau Llywodraethu yw'r dogfennau cyfreithiol sy'n rheoli'r ffordd y mae'n rhaid i Met Caerdydd ymddwyn ac yn gweithredu. Mae'r dogfennau hyn yn nodi cyfrifoldebau allweddol Bwrdd y Llywodraethwyr, yr Is-Ganghellor a'r Bwrdd Academaidd, a'r sail y gellir dirprwyo'r cyfrifoldebau hyn, yn ogystal â rheolau gweithdrefnol.
Mae'r
Datganiad o Gyfrifoldebau Sylfaenol yn nodi prif gyfrifoldebau Bwrdd y Llywodraethwyr ym Met Caerdydd.
Mae'r
Rheolau Sefydlog yn ymwneud â sut mae busnes yn cael ei gynnal gan Fwrdd y Llywodraethwyr a'i Bwyllgorau, megis prosesau ethol a phenodi, sut y cynhelir cyfarfodydd, a sut mae materion brys yn digwydd.
Cod Ymddygiad
Mae'r
Cod Ymddygiad yn ganllaw i aelodau Bwrdd y Llywodraethwyr a'i Bwyllgorau. Mae'r Cod yn nodi safon yr ymddygiad a ddisgwylir ganddynt a'r nod yw galluogi Llywodraethwyr i ddeall a chyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.
Datganiad Perthynas
Gweithiodd Bwrdd y Llywodraethwyr a'r Weithrediaeth gyda'i gilydd i ddatblygu'r
Datganiad Perthynas er mwyn egluro rolau'r ddau gorff, yn ogystal â nodi'r disgwyliadau. Bydd y Datganiad hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau perthnasoedd gweithio effeithiol a dealltwriaeth rhwng yr arweinwyr a'r penderfynwyr allweddol yn y Brifysgol.
Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu
Yn ystod 2020/2021, comisiynwyd yr Halpin Partnership gan Fwrdd y Llywodraethwyr i gynnal
adolygiad effeithiolrwydd llywodraethu, yn unol â'r argymhelliad yng
Nghod Llywodraethu Addysg Uwch y Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgolion. Mae adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd yn rheolaidd yn safon arfer da mewn llywodraethu. Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan Fwrdd y Llywodraethwyr ym mis Chwefror 2021. Mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau wedi bod yn goruchwylio gweithrediad yr argymhellion trwy gydol 2021/22.
Cofnodion Bwrdd y Llywodraethwyr
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2016-2017
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2017-2018
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2018-2019
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2019-2020
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2020-2021
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2021-2022
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2022-2023
Cofnodion - Blwyddyn Academaidd 2023-2024
Cofnodion Cyfarfod Bwrdd y Llywodraethwyr: 19 Hydref 2023
Pwyllgorau
Mae'r Cylch Gorchwyl yn nodi diben y Pwyllgor a therfyn ei awdurdod yn unol â Chynllun Dirprwyo'r Brifysgol.
Mae Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgorau yn rhoi gwybodaeth am fusnes a phenderfyniadau'r Pwyllgorau hyn yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Pwyllgor Archwilio
Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu
Y Pwyllgor Taliadau
Pwyllgor Adnoddau
Pwyllgor Cynllunio Strategol a Pherfformiad