Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am ein cwrs TAR Cynradd neu TAR Uwchradd, mae'n werth cynllunio ymlaen llaw ac ystyried dyddiadau a phrosesau pwysig gan fod llawer o'n cyrsiau TAR yn llenwi’n gyflym. Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod wedi gwneud popeth a ddisgwylir gennych i sicrhau eich lle.
Er mwyn hwyluso pethau, rydym wedi rhannu'r rhan hon o'n gwefan i'ch helpu chi i nodi'r prif bethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud cyn ac ar ôl i chi wneud eich cais TAR trwy UCAS.