Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad Met Caerdydd

Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad Met Caerdydd 2024

​​​1. Cyd-destun

  • 1.1. Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi gyrfa a pherfformiad myfyrwyr sy’n athletwyr.

  • 1.2. I gydnabod bod yn rhaid i ymgeiswyr sy'n cystadlu ar lefel perfformiad gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau chwaraeon, mae Met Caerdydd yn cynnig Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad sy'n lleihau ein gofynion mynediad i'r myfyrwyr hyn.

  • 1.3. Lle mae Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) yn gosod tariffau mynediad yn benodol, ni fydd unrhyw newid yn cael ei osod o dan y gofynion PSRB cyhoeddedig.

  • 1.4 Mae'r polisi'n berthnasol i geisiadau yn ystod y prif gylch i bob rhaglen israddedig ar draws pob cwrs ac ysgol​.

  • 1.5. Mae'r polisi'n berthnasol i bob math o chwaraeon, gyda meini prawf penodol ar gyfer ein rhaglenni perfformiad, a meini prawf a rennir ar gyfer chwaraeon eraill. ​

2. Y broses

  • 2.1. Dylai ymgeiswyr wneud cais i Met Caerdydd trwy'r broses ymgeisio arferol (UCAS). Hyd nes y derbynnir cais, ni ellir ystyried cynnig gostyngol.
  • 2.2. Bydd ymgeiswyr yn derbyn cynnig cychwynnol trwy UCAS ac yna'n cael eu hystyried o dan y Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad unwaith y bydd cais ar gyfer y cynllun wedi'i dderbyn.

  • 2.3. Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried o dan y Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad lenwi’r ffurflen gais Chwaraeon Perfformiad, a fydd yn cael ei hanfon at ymgeiswyr a’i chynnwys ar dudalennau gwe Met Caerdydd.

  • 2.4. Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu gan aelod staff perthnasol ar y rhaglen berfformiad a/neu’r Pennaeth Systemau Chwaraeon.

  • 2.5. Os yn gymwys am gynnig gostyngol, bydd y cynnig cychwynnol yn cael ei ddiweddaru ar UCAS a bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan y tîm derbyniadau.

  • 2.6. Oherwydd nifer y ceisiadau a'r broses dderbyn gyffredinol, os nad yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf ac heb dderbyn cynnig gostyngol, gallant gymryd yn ganiataol y bydd eu cynnig UCAS gwreiddiol yn parhau.​

3. Cyfyngiadau

  • 3.1. Gall yr ymgeisydd gael gostyngiad o ddim mwy na dwy radd i gyd drwy'r polisi hwn a pholisïau cynigion cyd-destunol eraill. Gall y polisi hwn ddarparu gostyngiad gradd un neu ddau. Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd gynnig llai o un radd eisoes, dim ond un radd arall y gallant ei gael trwy'r polisi hwn.

  • 3.2. Ni ellir defnyddio'r Polisi Cyd-destunoli a'r Polisi Cynnig Chwaraeon Perfformiad yn gronnol. Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf i ostwng un radd o dan y ddau bolisi yn derbyn cynnig un radd yn is na gofynion mynediad safonol y rhaglen.

  • 3.3. Nid yw cynnig gostyngol yn effeithio ar y broses dewis ar gyfer ein rhaglenni perfformiad neu dimau eraill.

  • 3.4. Nid yw cynnig gostyngol yn effeithio ar y broses dyfarnu ysgoloriaethau chwaraeon.

  • 3.5. Ar ôl derbyn cynnig gostyngol, mae disgwyl o hyd i ddarpar fyfyrwyr fodloni’r gofynion mynediad gostyngol ac ni fydd unrhyw addasiad pellach o dan y polisi hwn.

  • 3.6. Mewn amgylchiadau eithriadol bydd gan y Pennaeth Systemau Chwaraeon yr hawl, ar ôl trafod gyda’r Ysgol y daw’r cwrs oddi tano, yn seiliedig ar gais ffurfiol, i argymell darpar fyfyriwr ar gyfer cynnig gostyngol y tu allan i’r ffiniau uchod a dim ond gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Chwaraeon.

  • 3.7. Nid yw'r polisi hwn yn disodli Polisi Gohirio Met Caerdydd. Mae ymgeiswyr sy'n derbyn cynnig llai o dan y polisi hwn yn dal i allu gofyn am ohirio, lle maent yn cwrdd ag amodau'r cynnig yn y flwyddyn y maent yn gwneud cais, yn unol â'n polisi gohirio cyfredol.

  • 3.8 Nid yw'r polisi hwn yn cynnwys ceisiadau a gyflwynir drwy'r system Glirio​.

​4. Meini prawf

  • 4.1. Os bydd ymgeisydd yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf, bydd eu cynnig yn cael ei
    ostwng o un radd. Os bydd ymgeisydd yn bodloni’r holl feini prawf neu’n rhagori’n sylweddol
    ar y meini prawf gofynnol, gellir lleihau eu cynnig o uchafswm o ddwy radd. Gweler 3.1 am y
    gostyngiadau cyffredinol mwyaf mewn graddau.

  • 4.2. I fod yn gymwys rhaid i ddarpar fyfyrwyr fodloni'r meini prawf ar gyfer eu chwaraeon
    unigol.

    Athletau - Wedi cyrraedd yr 8 uchaf ym Mhencampwriaethau Athletau dan 20 Lloegr. Mewn
    amgylchiadau eithriadol byddwn yn ystyried PBs dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn
    perthynas â pherfformiadau terfynol Pencampwriaeth BUCS yn y gorffennol.

    Pêl-fasged Merched - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:

    • Cynghrair Pêl-fasged Academi Elît y Merched (WEABL)

    • Lefel Llwybr Rhanbarthol Aspire

    • Lefel Tîm Cenedlaethol 

    Pêl Fasged Cadair Olwyn – Profiad o gystadlu mewn unrhyw gynghrair a gydnabyddir gan Bêl-fasged Cadair Olwyn Prydain gan gynnwys y Gynghrair Genedlaethol Iau, y Gynghrair Genedlaethol a Chynghrair y Merched.

    Criced Dynion - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ae lefel uwch:

    • Wedi'u dewis fel rhan o academi sirol dosbarth cyntaf yn ystod y 2 flynedd
      ddiwethaf

    • Wedi cynrychioli eu gwlad, tim 1af, 2il XI neu dîm 1af XI Sir Genedlaethol

    • Ystyrir cynrychiolaeth ryngwladol gwahanol

    Pêl-droed Dynion - Profiad o chwarae ar un o'r lefelau canlynol;

    • Uwch Gynghrair Cymru

    • Cam 3 neu uwch yn system cynghrair yr FA

    Pêl-droed Merched - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:

    • Gwledydd Cartref dan 17 oed

    • Haen 1 tîm Cymru

    • Haen 3 neu uwch tîm Lloegr

    • Profiad presennol o fewn adran hŷn o Glwb Pêl-droed Merched Met Caerdydd

    Hoci Dynion - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch: 

    • Gwledydd Cartref (ENG, SCO, WAL) D18-Uwch

    • Gwledydd Ewropeaidd (GER, NED, BEL, FRA, ESP, AUT, IRL) O dan 18-Hŷn

    • Gweddill y Byd (MAS, IND, RSA, ARG, JPN, KOR, AUS, NZL, CHI, CAN, UDA) O dan 16-

    • Hŷn

    • Rhaglen Datblygu Elitaidd Prydain Fawr (EDP)

    • Uwch Gynghrair Genedlaethol Cynghrair Hoci Lloegr neu Adran 1 Gogledd/De

    Hoci Merched - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu ar lefel uwch: 

    • Gwledydd Cartref (ENG, SCO, WAL) D18-Uwch

    • Gwledydd Ewropeaidd (GER, NED, BEL, FRA, ESP, AUT, IRL) O dan 18-Hŷn

    • Gweddill y Byd (MAS, IND, RSA, ARG, JPN, KOR, AUS, NZL, CHI, CAN, UDA) O dan 16-

    • Hŷn

    • Rhaglen Datblygu Elitaidd Prydain Fawr (EDP)

    • Uwch Gynghrair Genedlaethol Cynghrair Hoci Lloegr neu Adran 1 Gogledd/De

     Pêl-rwyd - Profiad ar un o'r lefelau canlynol neu lefel uwch:

    • Gwledydd cartref dan 19 neu dan 21 oed

    • Tîm dan 19 neu dan 21 yr Uwch Gynghrair Cenedlaethol

    • Pêl-rwyd Lloegr Uwch Gynghrair 1

    Undeb Rygbi’r Dynion – Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:

    • Chwaraewr academi amser llawn neu ran amser

    • Cytundeb Academi'r Brifysgol

    • Gradd Oedran Rhyngwladol

    • Chwaraewyr Rhanbarthol neu Uwch Gynghrair dan 18 neu gyfatebol (ac eithrio cynlluniau AASE).

    Rygbi Merched - Profiad ar un o’r lefelau canlynol neu ar lefel uwch:

    • Rygbi Elît Merched (RFU)

    • Lefel Llwybr Rhanbarthol (URC)

    • Grŵp oedran gwledydd cartref

    • Rhan o Ganolfan Datblygu Chwaraewyr URC (PDC)

    Triathlon – Wedi gorffen ymhlith y 40 uchaf yn nigwyddiadau Cyfres Elite Youth/Junior Super Prydain.

    Chwaraeon eraill - Dylai ymgeiswyr gwrdd ag un o'r canlynol: 

    • Wedi'u dewis fel rhan o Lwybr Perfformiad Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol

    • Meddu ar lefelau perfformiad sy'n dangos gallu i ennill medalau ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol BUCS

    • Wedi cynrychioli eu gwlad ar lefel ryngwladol (grŵp oedran)