Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Derbyn

Polisi Derbyn

Mae polisi derbyn Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ceisio derbyn pawb a allai elwa o addysg uwch. Ystyrir ceisiadau yn ôl eu rhinweddau unigol, gan ystyried ystod eang o gymwysterau ffurfiol yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol. 

Mae Met Caerdydd yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog poblogaeth ehangach o fyfyrwyr trwy groesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb mewn addysg uwch, o bob cefndir, sydd â'r potensial a'r penderfyniad i lwyddo. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grŵp hiliol a chymdeithasol a'r rheini sydd ag anghenion arbennig neu anableddau. Nodir y wybodaeth hon yn ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rydym hefyd yn dilyn cod ymarfer yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA – www.qaa.ac.uk/) ar Recriwtio a Derbyniadau wrth ymgymryd â gweithdrefnau derbyn a chanllawiau gan y rhaglen Cefnogi Proffesiynoldeb mewn Derbyniadau (SPA – www. spa.ac.uk/). 

Gwneir ceisiadau am gyrsiau israddedig amser llawn drwy'r Gwasanaeth Derbyn i Brifysgolion a Cholegau (UCAS – http://www.ucas.ac.uk/) a gwneir ceisiadau am gyrsiau hyfforddi athrawon ôl-raddedig amser llawn drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS (UTT – http://www.ucas.ac.uk/). Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu ceisiadau yn unol â systemau a gweithdrefnau UCAS ac UTT. Gwneir ceisiadau am ein cyrsiau rhan-amser, ôl-raddedig ac ymchwil (ac eithrio hyfforddiant athrawon ôl-raddedig) yn uniongyrchol i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Darllenwch wybodaeth Sut i wneud cais am y cyrsiau hyn. 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithredu gweithdrefn dderbyn ganolog ar gyfer y mwyafrif o’n cyrsiau lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar feini prawf penodol a ddarperir gan diwtoriaid cwrs. Nid yw hyn yn addas ar gyfer pob cwrs neu gwrs sydd angen cyfweliad, felly yn yr achosion hyn, tiwtoriaid y cwrs yn unig sy’n penderfynu. Fodd bynnag, mae'r uned dderbyn yn edrych drwy’r ceisiadau i ddechrau er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr y gofynion perthnasol. Gwneir yr holl drefniadau ar gyfer cyfweliadau o fewn yr uned dderbyn a'r nod yw bod mor gefnogol â phosib. Darllenwch y wybodaeth a geir yn yr adran Cyngor i Ymgeiswyr. Mae'r coleg perthnasol yn ystyried ceisiadau am gyrsiau rhyddfraint. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut mae'r ceisiadau'n cael eu hystyried trwy trwy glicio yma. 

Dilynir yr holl weithdrefnau mewn perthynas â phrosesu cynigion gan yr uned ac anfonir yr holl ohebiaeth ynghylch derbyniadau gan yr adran. Mae'r uned yn delio â phob ymholiad gan gynnwys adborth ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus yn ogystal â chynnal yr holl weithdrefnau cadarnhau a chlirio. Am ragor o wybodaeth am adborth, darllenwch Bolisi Adborth Metropolitan Caerdydd. 

Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr am gyrsiau, cyfleusterau, gofynion mynediad a gweithdrefnau mor fanwl a chywir â phosibl. Anela hefyd at sicrhau bod yr holl staff yn cael eu hyfforddi'n barhaus mewn gweithdrefnau derbyn a'u bod mor gwrtais a chymwynasgar â phosibl. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn adolygu ac yn monitro pob mater sy'n ymwneud â derbyn myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y broses mor deg a thryloyw â phosibl drwy ymchwil marchnad ac adborth. Mae gweithdrefn gwynion hefyd ar waith ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn hapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd iddynt. 

Cyhoeddir holl ofynion mynediad ar gyfer cyrsiau ym mhrosbectws Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac ar wefan (http://www.cardiffmet.ac.uk/) yn ogystal ag ar wefan a chyhoeddiadau UCAS (http: // www.ucas.com/). Gwybodaeth bellach ar ymgeisio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd a gwybodaeth gyffredinol. 

Mae pob cynnig a wneir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn amodol ar brofi bod y cymwysterau a gofnodwyd ar y cais yn cael eu gwirio a bod ymgeiswyr wedi cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen i fodloni telerau'r cynnig fel y gellir cofrestru ymgeiswyr fel myfyrwyr a'u matriciwleiddio â'r Brifysgol. Rydym hefyd wedi cynhyrchu set o gwestiynau cyffredinol a thabl ar gyfer cyfeirio'n gyflym at ddilysu cymwysterau y gellir eu cyrchu. 

Gall astudiaethau blaenorol, profiad gwaith a hyfforddiant hefyd gyfrif fel credyd tuag at eich rhaglen astudio, fel rhan o 'Cydnabod Dysgu Blaenorol' (RPL). Rydym yn annog myfyrwyr o bob oed ac o bob cefndir i astudio gyda ni gan wybod y gellir sicrhau cyflawniad sylweddol trwy waith neu astudio preifat. 

Mae mynediad yn dibynnu ar gywirdeb y wybodaeth yn y cais. Diddymir ceisiadau ymgeiswyr nad ydynt yn dilyn y gweithdrefnau ymgeisio perthnasol ar gyfer y Brifysgol, UCAS ac UTT neu sy'n gwneud ceisiadau ffug neu dwyllodrus gan gynnwys peidio â datgelu gwybodaeth. Dylid cyfeirio at bolisi MetropolitanCaerdydd ar ddelio â cheisiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ffug neu dwyllodrus. Fel rheol, ni chaniateir i ymgeiswyr sydd wedi gadael y Brifysgol dan gwmwl academaidd h.y. heb gwblhau'r flwyddyn astudio y cawsant eu cofrestru ddiwethaf arni, gofrestru ar raglen wahanol yn y Brifysgol. Os bydd ymgeisydd sydd wedi gadael dan gwmwl academaidd gwael yn cofrestru heb ddatgelu ei statws na chael caniatâd penodol gan Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglen y’i cofrestrwyd ar ei chyfer yn flaenorol, yna bydd yn destun ymchwiliad o dan y weithdrefn ddisgyblu myfyrwyr am anonestrwydd. Bydd yr holl sancsiynau, gan gynnwys gwaharddiad,ar gael i'r swyddog ymchwilio. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran Ail-Ymgeisio berthnasol i'ch dull astudio: 

Cwrs Israddedig; Hyfforddiant Athrawon UCAS (TAR); Cyrsiau Rhan Amser, Ôl-raddedig a Phroffesiynol; a Rhaglen Ymchwil Fel rheol, ni chaniateir i ymgeiswyr sydd mewn dyled i'r Brifysgol am unrhyw reswm gofrestru ar raglen yn y Brifysgol. Os bydd ymgeisydd mewn dyled yn cofrestru heb ddatgelu'r ddyled na chael gwybodaeth benodol gan yr adran Gyllid, yna bydd yn destun ymchwiliad o dan y weithdrefn ddisgyblu myfyrwyr am anonestrwydd. Bydd yr holl sancsiynau, gan gynnwys gwaharddiad, ar gael i'r swyddog ymchwilio. Gwybodaeth bellach am Bolisi a Gweithdrefnau Dyledwyr y Brifysgol. 

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'r uned dderbyn yn rhan o'r adran Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr. Cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/aboutus i gael gwybodaeth am fframwaith strategol Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â derbyniadau a'r polisi derbyn at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.