Hafan>Newyddion>Cymorth newydd i fenywod sy'n dychwelyd i redeg ar ôl rhoi genedigaeth

Cymorth newydd i fenywod sy'n dychwelyd i redeg ar ôl rhoi genedigaeth

Newyddion | 28 Medi 2021​

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw'r cyntaf i helpu menywod i ddychwelyd i redeg yn dilyn geni plentyn gan ddefnyddio dulliau adfer a ddefnyddir yn draddodiadol ym maes chwaraeon.

Ymunodd y tîm o arbenigwyr academaidd a chlinigol yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd â Phrifysgol Abertawe i ddarparu dealltwriaeth unigryw o'r ffyrdd y gall ymarferwyr meddygol roi’r gefnogaeth orau i fenywod wrth iddynt ddychwelyd i redeg yn dilyn geni plentyn.

Mae'r ymchwil arloesol hon wedi arwain at gyhoeddi set o negeseuon allweddol wedi'u seilio ar dystiolaeth i gynorthwyo ymarferwyr meddygol, megis meddygon teulu, bydwragedd a ffisiotherapyddion, sy’n gweithio gyda menywod ôl-enedigol.

Gwnaed arolwg o 881 o ferched ôl-enedigol trwy holiadur ar-lein gan y tîm ymchwil a gwnaethant ganfod pedwar prif ffactor sy'n dylanwadu ar daith menywod i ddychwelyd i redeg:

Mae rhedeg yn ystod beichiogrwydd yn cael dylanwad cadarnhaol ar y tebygolrwydd o ddychwelyd i redeg yn dilyn geni plentyn

Roedd dioddef o'r teimlad o drymder y wain yn lleihau'r tebygolrwydd o ddychwelyd i redeg

Roedd 'ofn symud' mawr yn lleihau'r tebygolrwydd o ddychwelyd i redeg

Roedd amlder rhedeg uchel cyn beichiogrwydd yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddychwelyd i’r lefelau rhedeg cyn beichiogrwydd.

Gwelir 'ofn symud' ar draws amrediad eang o chwaraeon yn dilyn anafiadau mawr - gydag athletwyr yn pryderu ynghylch gwneud rhai symudiadau rhag ofn y byddant yn arwain at boen neu'n peryglu eu hadferiad. Dyma'r tro cyntaf i'r cysyniad hwn gael ei gymhwyso i ofal ôl-enedigol.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd gan y British Journal of Sports Medicine, hefyd yn awgrymu y gellir mynd i'r afael ag ofn symud a thrymder y wain mewn ymarfer clinigol.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Izzy Moore, Darllenydd mewn Symud Dynol a Meddygaeth Chwaraeon ym Met Caerdydd, a dywedodd: "Yn dilyn geni plentyn, gall menywod gael trafferth dychwelyd i ymarfer corff, a all effeithio'n sylweddol ar iechyd mamau a phlant.

"Felly mae ein hymchwil yn bwysig oherwydd dengys sut y dylid disodli'r cysyniad traddodiadol fod adfer rhag genedigaeth yn rhywbeth 'naturiol' yn unig, heb yr angen am lawer o gefnogaeth, â model adfer chwaraeon. At hynny, mae ein hymchwil yn dangos inni y dylid cefnogi mamau i ymgymryd â gwellhad gweithredol ar ôl geni plentyn.

"Mae'r ffordd newydd hon o feddwl o fudd i fenywod oherwydd, yn ei hanfod, gall dychwelyd i ffordd o fyw egnïol yn dilyn geni plentyn fod â buddion iechyd tymor hir i'r fam a'r plentyn.
"Yn y pen draw, mae ein neges yn glir - dylai gweithwyr iechyd proffesiynol addysgu, cefnogi a grymuso menywod i aros yn egnïol yn gorfforol yn ystod beichiogrwydd, lle mae'n ddiogel gwneud hynny."

Y ffisiotherapydd Gráinne Donnelly oedd arweinydd clinigol y prosiect ac ychwanegodd: "Fe’n galluogwyd gan y cydweithrediad clinigol-academaidd i wneud ein hymchwil yn glinigol berthnasol ac ystyrlon. Trwy sicrhau y cafodd elfennau a welir yn gyson mewn ymarfer clinigol eu hystyried, gallasom nodi bod ofn symud yn bresennol yn y boblogaeth ôl-enedigol a’i bod yn ymddangos bod trymder y wain yn dylanwadu ar ddychwelyd i redeg, yn hytrach na thrawma yn y perinëwm.

"Mae ein canfyddiadau’n uniongyrchol berthnasol ac yn drosglwyddadwy i ymarfer clinigol ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd gwerthuso pob menyw fel unigolyn ac, yn hanfodol, ystyried ffactorau corfforol a meddyliol sy'n dylanwadu ar eu dychweliad i ymarfer corff yn dilyn geni plentyn.

"Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at yr angen am ddull rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol o ofal ôl-enedigol. Mae angen inni sicrhau bod pob menyw’n cael eu cefnogi yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd i leihau risg y profiadau addasadwy hyn."

Mae Steph Dunlop yn byw yn Derry, Gogledd Iwerddon, a gweithiodd gyda Gráinne Donnelly, ffisiotherapydd, ar ei dychweliad i redeg ôl-enedigol. Dywedodd Steph: "Mae gen i ddau o blant - merch dair oed a bachgen un mis ar ddeg oed, ac fe wnes i weithio gyda Gráinne ar ôl y ddwy enedigaeth. Cyhoeddwyd y canllawiau clinigol dychwelyd i redeg rhwng fy mhlant, felly gyda fy ieuengaf, roeddwn i’n teimlo cymaint yn fwy parod i ddychwelyd i redeg.

"Ar ôl genedigaeth fy mhlentyn ieuengaf, gosodais nod imi fy hun i ailsefydlu a cholli ychydig o bwysau gydag ymarferion llai heriol. Ond, yn fuan cyn pen chwe mis ar ôl rhoi genedigaeth, dechreuais gael teimlad tebyg i drymder a dychrynais fy mod i am gael cwymp y groth.

"I ddechrau, ymwelais â Gráinne ar gyfer fy archwiliad ôl-enedigol wedi tua saith wythnos lle gosododd raglen o ymarferion bol i adennill cryfder ac effaith gynyddol er mwyn fy mharatoi ar gyfer rhedeg. Pe na bawn i wedi gweld Gráinne, rwy’n credu y byddwn wedi bod yn llawer mwy ceidwadol ac wedi adfer yn arafach."

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn rhan o Academi Fyd-eang ar gyfer Iechyd a Pherfformiad Dynol a Chanolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLl) Met Caerdydd.