Hafan>Newyddion>Myfyrwyr Met Caerdydd yn dathlu yn Seremoni Raddio mis Ebrill

Myfyrwyr Met Caerdydd yn dathlu yn Seremoni Raddio mis Ebrill

Newyddion | 10 Ebrill 2024

Yr wythnos hon, bydd cannoedd o fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd dros 370 o fyfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio ar ddydd Mercher 10 Ebrill.



Dywedodd Llywydd ac Is-ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Rachael Langford: “Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr sy’n graddio heddiw – mae graddio yn nodi canlyniad blynyddoedd o waith caled a phenderfyniad, a dylai pob myfyriwr sy’n cerdded ar hyd y llwyfan heddiw deimlo’n falch iawn o’u cyflawniadau. Dymunwn y gorau i chi wrth i chi nawr gychwyn ar y bennod nesaf yn eich bywydau.”

Bydd Seremoni Raddio mis Ebrill Met Caerdydd yn gweld myfyrwyr Ôl-raddedig a Meistr yn graddio o bedair Ysgol y Brifysgol gan gynnwys yr Ysgol Reoli, yr Ysgol Dechnolegau, yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Raddio ar gael ar wefan Met Caerdydd.