Hafan>Newyddion>Cyfarwyddwr Systemau Rygbi Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Gareth Baber i ymuno â Rygbi Fiji cyn Gemau Olympaidd Paris

Cyfarwyddwr Systemau Rygbi Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Gareth Baber i ymuno â Rygbi Fiji cyn Gemau Olympaidd Paris

Newyddion | 22 Mawrth 2024

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gyhoeddi bod Gareth Baber, ein Cyfarwyddwr Systemau Rygbi, wedi cael ei benodi’n Rheolwr Rhaglen 7s Cenedlaethol ar gyfer Rygbi Fiji ar gyfer y Gemau Olympaidd eleni.

Mae Gareth a Fiji yn gobeithio y bydd hanes yn ailadrodd ei hun wedi i’r Cymro arwain yr ynyswyr i’w hail fedal Aur Olympaidd yn unig dair blynedd yn ôl yng Ngemau Tokyo yn dilyn buddugoliaeth o 27-12 dros Seland Newydd yn y rownd derfynol.

Gareth Baber
Gareth Baber


Yn dilyn y Gemau sydd wedi’u heffeithio gan Covid yn Japan, fe gamodd Gareth i lawr o’r rôl arwain gyda Fiji, gan ymuno â Rygbi Caeredin fel hyfforddwr Ymosod a Sgiliau Cynorthwyol, cyn symud i Met Caerdydd y llynedd.

Mae Met Caerdydd yn falch iawn o gefnogi Gareth yn y rôl gyda Rygbi Fiji ar gyfer Paris 2024 tra ei fod hefyd yn parhau â’i rôl o fewn y Brifysgol.

Mae arbenigedd ac arweinyddiaeth Gareth wedi bod yn allweddol yn llwyddiant diweddar ein rhaglen rygbi ym Met Caerdydd.

Mynegodd Pennaeth System Chwaraeon Met Caerdydd, Ollie Toogood, frwdfrydedd dros benodiad Gareth, gan ddweud, “Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Gareth a’i ymroddiad parhaus i ragoriaeth rygbi. Mae ei rôl gyda Rygbi Fiji yn dyst i’w alluoedd rhagorol fel hyfforddwr, ac rydym wrth ein bodd i’w gefnogi.

“Mae profiad Gareth o arwain un o dimau rygbi gorau’r byd i’r amgylchedd Olympaidd uchel ei broffil, uchel ei phwysau yn un a fydd hefyd yn cefnogi hyfforddwyr a chwaraewyr presennol ac yn y dyfodol.”

Diolchodd Gareth Baber am y cyfle i barhau â’i daith hyfforddi gyda Rygbi Fiji tra’n aros yn rhan o gymuned Met Caerdydd. “Mae’n anrhydedd mawr i mi ymgymryd â’r rôl hon yn Rygbi Fiji. Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am eu cefnogaeth a’u hanogaeth ddiwyro, ac rwy’n edrych ymlaen i gynrychioli Fiji a Met Caerdydd ar y llwyfan byd-eang,” meddai Gareth.