Newyddion | 17 Ebrill 2024
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gael seddi am ddim yng nghynhadledd arweinyddiaeth genedlaethol DARPL a gynhelir eleni yn Llandudno. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar archwilio gwrth-hiliaeth mewn dysgu ac ymarfer proffesiynol.
Mae Cynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol ar Ddysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) 2024, a gynhelir yn Venue Cymru ar 20 Mehefin 2024, 9:00-17:00, yn agored i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion, gofal plant, gwaith chwarae, addysg bellach ôl-16 neu ddysgu seiliedig ar waith neu mewn gwaith ieuenctid.
Bydd gweithdai a gweithgorau yn cael eu hwyluso gan arbenigwyr cydraddoldeb sydd â phrofiad bywyd a/neu broffesiynol gyda’r nod o ddatblygu ac archwilio arweinyddiaeth gwrth-hiliaeth yn ymarferol.
Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys yr academydd a’r awdur, yr Athro Charlotte Williams OBE a Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, Chantelle Haughton, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr DARPL a phrif siaradwyr eraill.
Mae DARPL, a sefydlwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn fodel dysgu proffesiynol cenedlaethol sy’n cynnwys darpariaeth dysgu proffesiynol gwrth-hiliol ac adnoddau ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol.
Dywedodd Chantelle Haughton, Prif Ddarlithydd mewn Addysg Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr DARPL: “Dyma ail flwyddyn Cynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol arloesol DARPL, sy’n cynnig cyfle cefnogol a heriol i weithwyr proffesiynol gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon am ddysgu ac ymarfer amrywiaeth a gwrth-hiliol, gyda chymorth ymarferol yn cael ei gynnig drwy gydol y dydd. Mae hwn yn gyfle gwych, yn rhad ac am ddim, gyda lle i drafod. Rydyn ni’n gobeithio y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, gofal plant, gwaith chwarae a gwaith ieuenctid ledled Cymru yn manteisio ar y cyfle i herio a datblygu eu harweinyddiaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol.”
Cofrestrwch
yma i fynd i Gynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol DARPL 2024 yn rhad ac am ddim.