Hafan>Newyddion>Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymuno â phartneriaid ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ysgogi twf

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymuno â phartneriaid ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ysgogi twf

Newyddion | 25 Ebrill 2024

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi nodi carreg filltir arwyddocaol drwy lofnodi cytundeb arloesol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach (AU ac AB) eraill o Dde Ddwyrain Cymru.

Golygfa o'r awyr o Gampws Cyncoed Met Caerdydd a'r cyffiniau


Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth nodedig (MDdd) yn sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol, sy’n canolbwyntio ar amcanion allweddol ar gyfer gwella llesiant economaidd yn y rhanbarth.

Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n dod â’r tair prifysgol ym mhrifddinas Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru (PDC), ynghyd â cholegau Addysg Bellach y Rhanbarth, gan gynnwys Merthyr Tudful, Coleg Gwent, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Y Cymoedd, a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cydweithio hwn yn sicrhau bod y rhanbarth ehangach yn elwa ar ymdrechion cydweithredol, a bydd Met Caerdydd yn chwarae rhan arwyddocaol wrth hyrwyddo’r agenda twf rhanbarthol, tra’n hyrwyddo cynwysoldeb a chynaliadwyedd.

Daw’r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener fod Ysgol Reoli Caerdydd wedi derbyn label System Effaith Ysgolion Busnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheoli am yr effaith economaidd a gaiff yr Ysgol ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef cyfraniad o £169 miliwn bob blwyddyn.

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor a Llywydd Met Caerdydd: “Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyffrous i fod yn rhan o’r cydweithrediad digynsail hwn gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Trwy ein hymchwil, ein harloesedd a’n haddysgu, rydym wedi ymrwymo i gefnogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd lewyrchus ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid newydd i gefnogi’r gymuned fusnes, uwchsgilio’r gweithlu a darparu buddion cyhoeddus ehangach ar draws de-ddwyrain Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn y newyddion yr wythnos diwethaf bod ysgol fusnes Met Caerdydd, Ysgol Reoli Caerdydd, yw’r cyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn label System Effaith Ysgolion Busnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth i gydnabod yr effaith economaidd gadarnhaol a gaiff yr Ysgol ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Mae’r cytundeb arloesol hwn yn gosod y llwyfan ar gyfer cydweithrediad trawsnewidiol fydd yn gyrru ffyniant economaidd a datblygiad cymdeithasol.”

Gan adeiladu ar gydweithio llwyddiannus ers 2017, mae PRC a phartneriaid AU ac AB rhanbarthol wedi arwain prosiectau trawsnewidiol, gan sicrhau cyllid ymchwil ac arloesi sylweddol ar gyfer y rhanbarth. Yn benodol, y rhanbarth yw’r unig un yn y DU i dderbyn dwy fenter y Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) – CSConnected a Media Cymru – gwerth bron i £100 miliwn gyda’i gilydd.

Mae’r ymrwymiad newydd hwn drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cyd-fynd ag uchelgeisiau rhanbarthol ac yn agor llwybrau ar gyfer mwy o ymgysylltu â busnes, dysgu cydweithredol, addysgu, ac ymchwil a datblygu (YaD). Trwy’r cydweithrediad hwn, gall ddefnyddio arbenigedd cyfunol y sefydliadau hyn, gan lywio nodau a dyheadau a rennir.

Wrth fyfyrio ar y lansiad, mynegodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ei brwdfrydedd, gan nodi: “Rwy’n falch iawn bod partneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn uno i genfnogi ein huchelgeisiau rhanbarthol. Mae hyn yn adeiladu ar ymdrechion PRC i ffurfio clymblaid o’r rhai parod, gan ddod â’r bobl a’r sefydliadau a all gyfrannu at ein cenhadaeth ar gyfer rhanbarth mwy, gwyrddach a thecach at ei gilydd.”