Hafan>Newyddion>Mae digwyddiad Merched mewn Chwaraeon yn ennyn diddordeb merched ifanc mewn chwaraeon

Mae digwyddiad Merched mewn Chwaraeon yn ennyn diddordeb merched ifanc mewn chwaraeon

Newyddion | 28 Mawrth 20​24

Mynychodd dros 255 o ddisgyblion ysgol benywaidd o 14 ysgol mewn pum dalgylch gwahanol ddigwyddiad ‘Merched mewn Chwaraeon’ Prifysgol Metropolitan Caerdydd – rhan o fenter Campws Agored lwyddiannus y Brifysgol – sy’n rhoi mynediad i blant ysgol ac aelodau o’r gymuned ledled Caerdydd at chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chefnogaeth iechyd.



Yn ystod y digwyddiad Merched mewn Chwaraeon, a gynhaliwyd ar Gampws Cyncoed Met Caerdydd, cymerodd merched o flynyddoedd 10 ac 11 ran mewn gweithgaredd chwaraeon, darganfod mwy am y Brifysgol, y cyrsiau sydd ar gael, a pha lwybrau gyrfa sydd ar gael gan gyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr benywaidd ysbrydoledig a grymusol.

Dywedodd Emma Manning, Cydlynydd Campws Agored ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Dengys astudiaethau mai dim ond 43 y cant o ferched 11-16 oed yng Nghaerdydd sy’n gwneud ymarfer corff hyd at dri diwrnod yr wythnos, gyda data’n awgrymu nad yw 13.9 miliwn o fenywod ledled y DU yn ddigon egnïol*. Mae ymchwil yn amlygu effaith gadarnhaol aruthrol darparu amgylcheddau tosturiol a chroesawgar, gan arddangos menywod o bob oed a chefndir yn cymryd rhan. Yma ym Met Caerdydd rydym am newid yr ystadegau hynny drwy roi cyfle i fenywod a merched fwynhau chwaraeon mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.”

Cynhaliodd y digwyddiad Merched mewn Chwaraeon sesiynau hefyd yn canolbwyntio ar chwaraeon anhraddodiadol, a ddyluniwyd ac a gyflwynwyd gan fyfyrwyr Hyfforddiant Chwaraeon a Chwaraeon, AG ac Iechyd Met Caerdydd. Y nod oedd annog disgyblion i roi cynnig ar rywbeth nad ydynt wedi’i brofi o’r blaen.

Parhaodd Emma: “Cafodd disgyblion y cyfle i ryngweithio gyda merched o’r un oed, o’r un ardal, gyda’r un diddordebau, na fyddent wedi cael y cyfle i’w cyfarfod o’r blaen, gyda’r gobaith o feithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i ysbrydoli merched ifanc drwy dynnu sylw at bŵer chwaraeon ac i helpu i gael gwared ar stigma, gan ddangos bod chwaraeon ar gyfer unrhyw un ar unrhyw lefel, ar unrhyw oedran, ac nad oes rhaid i chi chwarae chwaraeon i weithio mewn chwaraeon.”

Heriodd y digwyddiad staff a myfyrwyr i ystyried yn ofalus anghenion y disgyblion benywaidd. Wrth wneud hynny, darparodd y digwyddiad brofiadau dysgu gwerthfawr a dilys.

Dywedodd Stacey Grew, athrawes Iechyd a Lles yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, un o’r ysgolion a fynychodd y digwyddiad Merched mewn Chwaraeon: “Mae’n bwysig i’n hysgol ni gymryd rhan gan fod angen i’n myfyrwyr gael profiad o’r hyn sydd y tu allan i’r ardal y maent yn byw ynddi. Mae hefyd yn bwysig bod gan ein myfyrwyr fodelau rôl benywaidd i’w hysbrydoli a gweld bod unrhyw beth yn bosibl waeth beth fo’u cefndir a, neu ryw.

“Ein nod yw hyrwyddo uchelgais a gwytnwch o fewn ein myfyrwyr a chyfleoedd fel y cymorth hwn. Pwrpas y profiadau hyn yw ceisio codi dyheadau ein myfyrwyr a’u gwneud yn fwy uchelgeisiol, rydym am iddynt wybod bod y pethau hyn yn bosibl.”

Os hoffai eich sefydliad weithio gyda Met Caerdydd trwy Gampws Agored, cysylltwch â opencampus@cardiffmet.ac.uk.


* Dengys astudiaethau mai dim ond 43% o ferched 11-16 oed oedd yn gwneud ymarfer corff 0-3 diwrnod yr wythnos yn 2021 (Data Ymddygiad Gweithgarwch Corfforol – Symud Mwy Caerdydd).

Mae data Active Lives gan Sport England yn awgrymu nad yw mwy na 13.9 miliwn o fenywod yn ddigon egnïol. (Arolwg Marchnata Chwaraeon – Teithiau Chwaraeon Merched: Sut i gadw merched i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy gydol eu hoes).