Cynnydd y Brifysgol Iach
Adroddiad diweddaru’r Brifysgol Iach 2017 2018
Adroddiad cynnydd ar ddiweddariad y Brifysgol Iach 2016
Lansio’r Brifysgol Iach
Yn ddiweddar, datblygodd y Brifysgol Strategaeth Prifysgol Iach.
Diolch i chi i gyd am eich syniadau a'ch adborth yn y cyfnod ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Ysgogodd y broses ymgynghori lawer o adborth gwerthfawr a gafodd ei gategoreiddio wedyn o dan themâu allweddol.
I gael mwy o wybodaeth am y themâu hyn ewch i'n tudalen gwe newydd yma. Os hoffech weld y ddogfen strategaeth lawn, cliciwch yma.
I lansio’r Strategaeth Prifysgol Iach mae gennym ystod o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio ym mis Hydref i chi gymryd rhan ynddynt:
Mis Hanes Pobl Dduon 1 Hydref ̶ Ymwelwch â Stondin Met Caerdydd rhwng 12-6pm ddydd Sadwrn, 1 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Met Caerdydd yn falch o noddi gwobrau Ieuenctid Cymru Mis Hanes Pobl Dduon Race Council Cymru ar Medi 30ain 2016 yn ogystal â’r Mis Hanes Pobl Dduon ei hun. I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon cliciwch yma.
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Hydref 10fed, 12-2pm, Llandaf. (Stondin yng Nghyncoed i’w chadarnhau)
Staff yn Beicio/ Cerdded i'r Gwaith Hydref 10fed-21ain ̶ Gall staff sy'n addo cerdded / beicio i'r gwaith wneud cais am dalebau i gael brecwast am ddim. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru cliciwch yma.
Diwrnod Bydd Wyrdd 14 Hydref ̶ mae gan Met Caerdydd gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Bydd Wyrdd. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a gweld sut i archebu.
Dosbarthiadau Cymraeg i'r Staff ̶ Mae'r dosbarthiadau yn dechrau ar Hydref 19eg, cysylltwch â Daniel Tiplady i gael mwy o wybodaeth
Gwefan Cynllun Teithio Traveline Cymru ̶ Mewn partneriaeth â Traveline Cymru, mae gan Met Caerdydd wefan cynllunio teithiau bwrpasol i’ch helpu i gyrraedd campysau Met Caerdydd.
Stoptober 1-31 Hydref ̶ Beth am gael cefnogaeth i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu ac ymuno â'r miloedd sy'n rhoi'r gorau iddi am 28 diwrnod. Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth cliciwch yma.
Hydref Sobor ar ei Hyd 1- 31 ̶ Yn barod am her? Arhoswch yn sobor drwy fis Hydref ar ei hyd a chodi arian ar gyfer Cymorth Canser Macmillan. Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth gweler cliciwch yma.