Hafan>Prifysgol Iach

Prifysgol Iach

Healthy University

 

Mae’r Strategaeth Prifysgol Iach wedi esblygu o'r gwaelod i fyny gydag ymrwymiad gan bob rhan o'r Brifysgol, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr, ac mae wedi’i seilio i raddau helaeth ar lais y staff a'r myfyrwyr. Datblygodd y strategaeth i raddau helaeth o gyfres o sioeau teithiol a gynhaliwyd gan staff a myfyrwyr a chyfleoedd eraill i ymgynghori a gynhaliwyd trwy gydol 2015/16.

Fel Prifysgol Iach, ein nod yw datblygu amgylchedd gwaith ac astudio sy'n gydlynol yn gymdeithasol, yn gyfrifol yn amgylcheddol sy'n ceisio ennyn diddordeb staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.

Mae'r Strategaeth, sy'n cwmpasu'r cyfnod 2016-20, yn cynnwys y tri nod craidd canlynol:

    • Cyfrifoldeb Cymdeithasol  ̶  Cyfrannu at gymdeithas decach trwy wella effaith rhyngweithio â'n cymunedau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol

    • Effeithlonrwydd Amgylcheddol  ̶   Gwreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol fel egwyddor drefnu graidd ar draws pob gweithgaredd

    • Iechyd a Lles   ̶  Creu amgylchedd lle mae unigolion yn cael eu hysbrydoli a'u cefnogi i berfformio hyd eithaf eu gallu, ac wrth wneud hynny cyfrannu at nodau, gwerthoedd a llwyddiant y Brifysgol.

​​

 Newyddion diweddaraf

Content Query