Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd y rôl sydd ganddi i'w chwarae wrth reoli amgylchedd ei hystâd ac wrth hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd ar draws pob gweithgaredd, gan gynnwys addysgu ac ymchwil.
Bydd y Brifysgol yn rheoli ei risgiau amgylcheddol mewn modd cynaliadwy trwy gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a mabwysiadu arfer gorau lle bo hynny'n briodol.
Mae Metropolitan Caerdydd yn cydnabod diffiniad eang o gynaliadwyedd, yn seiliedig ar gymryd rhan mewn datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol, heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Trwy’r Strategaeth Prifysgol Iach rydym am barhau â'n gwaith da, gan ddal ati i ymgysylltu â staff, myfyrwyr, contractwyr ac ymwelwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach.