Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a gweithredu arfer gorau o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth er mwyn darparu amgylchedd gweithio a dysgu i alluogi staff a myfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn.
Rydym am weithio y tu hwnt i'r gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac yn anelu at ymgorffori cyfle cyfartal ym mhopeth a wnawn.
Trwy Strategaeth y Brifysgol Iach rydym am barhau â'n gwaith da, gan ddal i ymgysylltu â'n staff a’n myfyrwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach i helpu i greu sefydliad mwy cynhwysol ac amrywiol.