Nod y Brifysgol yw darparu amgylchedd gweithio ac astudio croesawgar, cefnogol ac iach.
Er mwyn cyflawni'r nod hwn mae Met Caerdydd yn ceisio darparu amgylchedd gwaith ac astudio iach sy'n bodloni’r egwyddorion hanfodol canlynol: Iechyd Corfforol a Meddyliol Da, Gwaith Da, Cefnogaeth Arbenigol Dda a Pherthynas Gwaith / Astudio Da.
Trwy’r Strategaeth Prifysgol Iach rydym am barhau â'n gwaith da, gan barhau i ymgysylltuâ'n staff a’n myfyrwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach i helpu i greu sefydliad iach a chroesawgar.
Mae Met Caerdydd yn darparu ystod o Gyfleusterau Iechyd a Lles i helpu i ddarparu amgylchedd gwaith ac astudio iach;
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ar y safle;
- Cysgodfeydd beic ac Ystafelloedd Newid Actif;
- Meddygaeth Chwaraeon a Gofal Iechyd Cyflenwol ar y safle;
- Cyngor a chwnsela ar gyfer iechyd meddwl;
- Polisïau a hyfforddiant i gefnogi iechyd, diogelwch a lles staff a myfyrwyr;
- Grwpiau diddordeb iechyd a lles staff / myfyrwyr