Uned Ymchwil Bwyd a Diod Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Mae Uned Ymchwil Bwyd a Diod y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn flaenllaw yn ei maes gydag arbenigedd mewn ymchwil sy’n canolbwyntio ar y diwydiant bwyd a diod, ymchwil i ddiogelwch bwyd defnyddwyr mewn sefyllfaoedd domestig ac ymchwil i ofal iechyd sy’n gysylltiedig â diogelwch bwyd. Mae gwreiddiau’r uned mewn gweithgaredd ymchwil amlddisgyblaethol ers dros ugain mlynedd y gwnaeth ymchwilwyr a fu’n flaenllaw yn y maes gyfrannu iddo mewn meysydd a ategwyd gan gydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae modd gweld pa mor gynhyrchiol yw’r Uned drwy edrych ar gyhoeddiadau mewn cyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, erthyglau ar y cyfryngau a gwahoddiadau i gyflwyno’n fyd-eang mewn cynadleddau’r diwydiant. Bydd tîm ymchwil diogelwch bwyd yn cyflwyno ymchwil yn flynyddol yn y prif gynadleddau diogelwch bwyd rhyngwladol; yr IAFP (International Association for Food Protection) a Symposiwm Ewropeaidd yr IAFP ar Ddiogelu Bwyd. Yn ogystal, a hwythau’n aelodau o’r UK Affiliate for Food Protection, bydd aelodau o’r tîm ymchwil yn trefnu ac yn croesawu cynhadledd Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU bob blwyddyn. Roedd yr Uned yn bresennol hefyd yn:
 

Mae cyfathrebu ac estyn allan o ran diogelwch bwyd yn bwysig iawn hefyd. Byddwn yn cynnal digwyddiadau blynyddol ar gyfer y cyhoedd ar y cyd ag Wythnos Diogelwch Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar wahanol elfennau o ddiogelwch bwyd.

I gael rhagor o wybodaeth:
Dr Elizabeth C. Redmond (Uwch Gymrawd Ymchwil)
Dr Ellen W. Evans (Cymrawd Ymchwil)
Leanne Ellis (Rheolwr Ymchwil a Chysylltiedigion)
Sharon Mayho (Rheolwr Datblygu Systemau Ymchwil)