Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Bûm yn aelod o’r tîm ers 2013. Fel Darllenydd mewn Ymddygiad Diogelwch Bwyd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, rwy’n ymwneud yn fawr ag ymchwil diogelwch bwyd mewn perthynas â thri maes allweddol: diogelwch bwyd defnyddwyr mewn lleoliadau domestig; diwylliant diogelwch bwyd yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a’r sector gwasanaeth bwyd; ac addysg a chyfathrebu diogelwch bwyd mewn lleoliadau gofal iechyd.
Mae’r berthynas rhwng pobl a bwyd yn fy nghyfareddu. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dylanwad gwybodaeth ddynol a chanfyddiadau ar ymddygiad, a’r effaith ddilynol ar ddiogelwch bwyd; mae’r diddordeb hwn yn ymestyn o’r rhai sy’n trin bwyd yn y sector bwyd i’r defnyddwyr yn yr amgylchedd domestig.
Rwy’n cynnal agweddau amrywiol ar ymchwil diogelwch bwyd o ddadansoddi microbiolegol, datblygiad a gwerthusiad strategaethau ymyrryd mewn addysg diogelwch bwyd, i asesu cydymffurfiaeth diogelwch bwyd yn y diwydiant bwyd gan ddefnyddio dulliau arsylwi cudd, ac arsylwi ar arferion diogelwch bwyd yn y gegin ddomestig enghreifftiol arloesol yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd.
Rwy’n goruchwylio prosiectau myfyrwyr BSc, MSc, MRes, Doethuriaeth a Doethuriaeth Broffesiynol yn ymwneud â diogelwch bwyd.
Rwy’n ymwneud â threfnu cynadleddau ymchwil, yn cyfrannu at deledu a radio, ac rydw i ar fwrdd golygu dau gyfnodolyn diogelwch bwyd rhyngwladol.