Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Ymchwil>Ymchwil sy’n canolbwyntio ar y Diwydiant Bwyd a Diod

Ymchwil sy’n canolbwyntio ar y Diwydiant Bwyd a Diod

O gofio’r cysylltiadau sydd gan Ganolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE â’r diwydiant bwyd yng Nghymru, bydd y grŵp ymchwil yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil gyda busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru o ran meysydd gwahanol diogelwch bwyd. Bu prosiectau diweddar a chyfredol yn canolbwyntio ar: adnabod y pethau sy’n rhwystr i gael a chynnal cydymffurfiad â chynllun diogelwch bwyd; lleihau gwastraff; defnyddio egwyddorion gweithgynhyrchu darbodus; profiad y diwydiant o ran ail-ffurfio cynhyrchion bwyd ac asesu cydymffurfiad pobl a fydd yn trafod bwyd â phrotocolau hylendid dwylo.  Ymhlith yr ymchwil ychwanegol mae datblygu sgiliau technoleg a gwyddor bwyd; arloesi; twf; ymchwil marchnata, cynaliadwyedd, a gwerthuso a dadansoddi cadwyni gwerth.

Caiff canlyniadau ymchwil (a fydd yn aml â goblygiadau ar gyfer busnesau bwyd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol) eu cyflwyno’n aml i Lywodraeth Cymru i gael goleuo polisi megis y papur ymgynghori Ein huchelgais i ddatblygu sector bwyd a diod Cymru ymhellach ac ymyriadau i sicrhau twf yn y diwydiant bwyd yng Nghymru yn unol â Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020.

Cefnogaeth a Chydweithrediad

Mae’r Uned Ymchwil yn cefnogi astudiaethau israddedig, ôl-raddedig, PhD, Ôl-Ddoethuriaeth a Doethuriaeth Broffesiynol ac mae’n cydweithredu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol o fewn y sector gan gynnwys:

  • Rhaglenni PhD a ariennir gan KESS2
  • Georgia Pacific, USA
  • Charm Sciences, USA
  • EIT Food
  • WRAP

Cydweithwyr academaidd:

  • Athrofa Ryngwladol Gwyddorau Maethol a Diogelwch Bwyd Cymhwysol, Prifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn
  • Labordai Holchem
  • Gweithgor Diwylliant Diogelwch Bwyd y Fenter Diogelwch Bwyd Fyd-eang
  • Grŵp ymchwil gwyddor ddiogelwch bwyd Salus

Cyhoeddiadau Allweddol a Chyfraniadau i Gynadleddau (rhestr lawn o Gyhoeddiadau a rhestr lawn o Gyfraniadau Cynhadledd)

Evans, E.W. & Redmond, E.C. (2019) Video Observation of Hand-Hygiene Compliance in a Manufacturer of Ready-To-Eat Pie and Pastry Products. International Journal of Environmental Health Research. 29:6, 593-606

Evans, E.W. & Taylor, H.R. (2019) Understanding the barriers to food safety scheme certification in the food and drink manufacturing industry in Wales, UK., International Journal of Environmental Health Research, [published online ahead of print]

Redmond, E.C., Facey-Richards, R., Ellis, L., Mayho, S. and Lloyd, D. (2019) Food safety and technical upskilling in the Welsh food industry: impact of the KITE project 2008-2015. Poster Presentation at the 1st World Congress Food Safety and Security; Leiden, the Netherlands; 24-28th March 2019

Ellis, L. and Evans, E.W. (2019) Industry perceptions regarding the potential impact of Brexit on the food and drink manufacturing industry in Wales. Poster presented at The 11th International Conference on Culinary Arts and Sciences (ICCAS), Cardiff, Wales, UK, on 26th -27th June 2019